Pam chwarae 'mlaen?
- Cyhoeddwyd

Yn ei flog wythnosol i BBC Cymru Fyw, mae Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru yn sôn am ei rwystredigaeth gyda thactegau ambell i dîm wedi i'r 80 munud ddod i ben:
Cymal ar ôl cymal
"Beth yw'r pwynt?" Mae'n siŵr bod cefnogwyr rygbi Cymru wedi gofyn y cwestiwn droeon ar hyd y blynyddoedd a 'dwi 'di clywed fy hun yn gofyn yr un peth yn ddiweddar. Na - dim i'w wneud â'r dadlau rhwng yr undeb a'r rhanbarthau na chanlyniadau gwael ar y cae. Ond diwedd gemau sy'n fy mhoeni fi. Mae'n rhywbeth nes i sylwi gynta' yn y gêm 7-bob ochr ond yr un mor amlwg nawr yn y gêm pymtheg dyn.
Pan mae'r amser ar ben a'r cloc wedi troi'n goch a dim gobaith newid y canlyniad, pam fod chwaraewyr yn dal i fynnu mynd drwy gymal ar ôl cymal a chadw'r bêl yn fyw? - a hynny'n aml pan oedden nhw ddim wedi gwneud dim tebyg am yr 80 munud blaenorol.
"Rhowch y bêl mas!"
Mae'r criw cynhyrchu teledu yn fy nghlustiau ar nos Wener yn mynd yn wallgo' bost gyda'r rhaglen yn prysur ddirwyn i ben a'r chwarae'n dal i fynd yn ei flaen. Prin fod amser i ddweud nos da heb sôn am ddadansoddi na thrafod. Felly er tegwch i'w pwysau gwaed nhw "rhowch y bêl mas bois!"
Ond o ddifri' mae 'na bwynt wedi codi'r tymor ma' - yn llythrennol. Ydi timau Cymru'n sylweddoli pryd i roi'r bêl mas a phryd i chwarae 'mlaen? Yng Nghaeredin fe benderfynodd y Scarlets redeg y bêl er mwyn ceisio troi gêm gyfartal yn fuddugoliaeth a mynd adre gyda dau bwynt ychwanegol. Ond ar y pryd roedden nhw lawr i bedwar ar ddeg gyda'r capten Scott Williams yn y gell cosbi ac yn chwarae yn eu hanner eu hunain. Petai gan Gaeredin giciwr o fri byddai'r Scarlets wedi mynd adre'n waglaw.
Tacteg gostus
Dyna'n union wnaeth y Gleision yn Nulyn ar ôl ymdrech wych. Ar ôl bod ar ei hôl hi roedden nhw nôl o fewn saith ac 80 munud ar y cloc pan benderfynon nhw redeg o'u dwy ar hugain eu hunain. Beth ddigwyddodd? - colli meddiant ac ildio cais nid yn unig gollodd bwynt bonws i'r Gleision ond roddodd bwynt ychwanegol i Leinster - double whammy chwedl y Sais allai fod yn gostus iawn ddiwedd y tymor.
Mae dewrder a menter yn un peth ac agwedd bositif i'w ganmol ond nid bod yn negyddol yw pwyllo weithiau a meddwl "Beth yw'r pwynt?"
Bydd Gareth yn sylwebu ar y gêm PRO 12 Scarlets v Dreigiau, Clwb S4C 15:45, Dydd Sul Hydref 5