Profi ffermio ym Mhenfro yn yr Oes Haearn cynnar
- Cyhoeddwyd

Mae archeolegwyr wedi darganfod tystiolaeth i brofi bod pobl yn ffermio ar Ynys Sgomer, Sir Benfro, tua 116-54 mlynedd cyn Crist.
Mae'r darganfyddiadau'n seiliedig ar brofion radiocarbon o domen goginio. Roedd y tomenni'n cael eu defnyddio i ferwi dŵr ar gyfer coginio yn ystod y cyfnod cynnar.
Roedd archeolegwyr wedi dod o hyd i ddant buwch oedd wedi'i roi yn y domen tra'i bod yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr Oes Haearn.
Mae'r canlyniadau yn dangos, felly, fod pobl wedi bod yn trin tir Sgomer ers bron i 2,200 mlynedd.
Ardal gadwraeth
Mae Sgomer yn cael ei warchod yn ddwys fel cartref aderyn y pâl ac adar y môr. Ond yma hefyd mae rhai o'r olion gorau ym Mhrydain o gartrefi hynafol a systemau amaethyddol.
Dim ond ymchwil ar wyneb y tir sydd wedi'i ganiatáu ar yr ynys yn y gorffennol gan y Comisiwn Brenhinol, Prifysgol Sheffield, a Phrifysgol Caerdydd, a fu'n cydweithio'n agos gyda Cadw ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Am y tro cyntaf ym mis Ebrill, cafwyd caniatâd i dîm bach o archeolegwyr agor ffos gloddio fodern ar yr ynys. Canlyniad y cloddio yw gwell dealltwriaeth o hanes o'r trigolion hynafol a'r gwaith ffermio ar Ynys Sgomer.
'Hyd at 5,000 o flynyddoedd'
Dywedodd Dr Toby Driver, o adran Henebion y Comisiwn Brenhinol: "Islaw'r domen, cafwyd hyd i ddarn o dir wedi'i selio oedd yn cynnwys offer fflint sy'n dyddio nôl i'r Oes Neolithig neu'r Oesoedd Haearn cynnar.
"Fe wnaeth ail brawf radiocarbon ddyddio golosg y pridd uwchlaw i gyfnod diweddarach sy'n profi i'r domen ar tai gerllaw gyrraedd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Haearn.
"Mae'r dyddiadau'n fanwl gywir i'r 62 mlynedd agosaf."
Dywedodd Dr Driver bod potensial i'r dyddiad ymestyn ymhellach yn ôl na hyn, hyd at 5,000 o flynyddoedd.