Jane Hutt: Y gyllideb anoddaf ers sefydlu'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt

Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi honni mai cyllideb ar gyfer 2015-16 yw'r "gyllideb anoddaf mae unrhyw lywodraeth... wedi gorfod ei gosod" ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

Wrth siarad gyda Phwyllgor Cyllid y Cynulliad dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi clustnodi unrhyw arian penodol yn y gyllideb ar gyfer helpu cynghorau sy'n dewis uno.

Yn flaenorol roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorau y byddai arian ar gael ar eu cyfer pe baen nhw'n uno'n wirfoddol gydag awdurdodau eraill.

Fel rhan o'r gyllideb cafodd ei chyhoeddi ddydd Mawrth bydd y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £425 miliwn yn ychwanegol i'w wario dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor y byddai peth o'r £200 miliwn ychwanegol ar gyfer gwariant ar iechyd yn 2015-16 yn dod o gronfa wrth gefn y Llywodraeth.

Cyllideb gytbwys a theg

Cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid ddydd Iau oedd y cyfle cyntaf i aelodau cynulliad gwestiynu'r gweinidog cyllid ynglŷn â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

Cafodd y gyllideb ei chyhoeddi ddydd Mawrth.

Wrth ymateb i gwestiwn gan yr AC Llafur Mike Hedges ynglŷn â sut roedd Llywodraeth Cymru wedi cynllunio ar gyfer y toriadau yn y gyllideb, dywedodd Jane Hutt ei bod wedi darparu "cyllideb gytbwys, cyllideb deg a chyllideb fydd yn diwallu anghenion o ran defnydd o wasanaethau cyhoeddus."

Dywedodd: "Hon yw'r gyllideb anoddaf mae unrhyw un, unrhyw lywodraeth ac unrhyw weinidog cyllid erioed wedi gorfod ei gosod. Yn amlwg mae rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled."

Herio'r gweinidog cyllid

Mae Alun Ffred Jones, AC Plaid Cymru Arfon, wedi herio'r gweinidog cyllid wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd y rhan fwyaf o'r arian ychwanegol sy'n cael ei roi i'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â gorwariant y byrddau iechyd eleni.

Dywedodd Mr Jones: "Mae hi'n amlwg bod y gweinidog wedi bod yn ceisio cuddio'r arian i'r byrddau iechyd yn y gyllideb.

"Mae'r gweinidog cyllid wedi gorfod rhoi £200 miliwn mewn i'r gyllideb eleni er mwyn rhoi cymorth i'r byrddau iechyd. Bydd yr arian hwnnw ddim ond yn talu am orwariant presennol - ni fyddwn yn gweld ei effaith ar y gwasanaeth iechyd fel arian newydd ychwanegol.

"Mae hyn yn golygu y bydd y £225 miliwn fydd yn cael ei fuddsoddi flwyddyn nesaf yn ddim mwy nag ychwanegiad cymharol fychan i ymrwymiadau gwariant eleni.

"Yng Nghymru rydym ni wedi arfer gyda rhoi arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd er mwyn ymdrin â gorwariant - roedd y swm flwyddyn ddiwethaf bron yn £150 miliwn - ond hwn yw'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru geisio cuddio arian o'r fath mewn cyllideb ddrafft."

Cefnogaeth drwy gytundeb

Bydd y gyllideb yn derbyn cefnogaeth y Cynulliad o ganlyniad i gytundeb dwy flynedd rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn £15.33 biliwn, cwymp o gyllideb y flwyddyn flaenorol, oedd yn £15.37 biliwn.

Bydd yr arian ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd - £200 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon a £225 miliwn yn y flwyddyn nesaf - yn golygu toriadau mewn adrannau eraill.

Bydd llywodraeth leol yn wynebu toriad o £154 miliwn i'w gymharu â'i chyllideb y llynedd, gydag addysg a sgiliau yn colli £28 miliwn.