Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws a char yng Nghastell-nedd.
Roedd y dyn yn y car pan wrthdarodd gyda'r bws.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Cimla o Gastell-nedd tua 13:45 ddydd Iau.
Mae'r heddlu'n dweud bod tua 10 o bobl ar y bws pan ddigwyddodd y ddamwain ac nad oes yr un ohonyn nhw wedi eu hanafu'n ddifrifol.
Mae Ffordd Cwm Afan wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd rhwng Greenwood Drive a Rhodfa Trefallen.
Cafodd dau griw o ddiffoddwyr - o Gastell-nedd a Threforys - eu gyrru i'r safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw am 13:47 ar ôl adroddiadau bod gwrthdrawiad wedi bod rhwng bws a char ar Ffordd Cwm Afan yng Nghimla.
"Mi wnaethon ni ymateb drwy anfon dau gerbyd ymateb brys a thri ambiwlans."