Allforio: Label 'Prydain' sydd orau?
- Cyhoeddwyd

Yn ôl arolwg sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener fe allai'r label "Gwnaed ym Mhrydain" sicrhau pris gwell i fusnesau na'r label "Gwnaed yng Nghymru".
Mewn gwledydd tramor lle mae'r marchnadoedd yn datblygu dywedodd un ym mhob pump (20%) cwsmer y byddai baner Cymru yn eu denu at gynnyrch, ond roedd 64% yn rhoi'r un ateb ar gyfer baner y Deyrnas Unedig.
Yn ôl yr adroddiad, cafodd ei gomisiynu gan Fanc Barclays, roedd pobl yn cysylltu Cymru gyda thraddodiad a gwerth am arian.
Roedd Prydain yn cael ei weld yn well brand na gwledydd unigol Cymru, Lloegr neu'r Alban ar gyfer pob cynnyrch heblaw alcohol.
Yn achos alcohol roedd y label "Gwnaed yn yr Alban" yn aml yn perfformio'n well.
Gwnaeth ymchwilwyr holi pobl mewn wyth marchnad dramor.
Roedd y rhain yn cynnwys gwledydd gydag economi ddatblygedig fel yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon.
Roedd hefyd yn cynnwys economïau sy'n tyfu fel Brasil, China, Qatar a De Affrica.
Yn ôl y gwaith ymchwil, byddai cynnydd o £2 biliwn y flwyddyn o'r wyth gwlad yma pe bai nwyddau yn defnyddio'r label "Gwnaed ym Mhrydain".
Gwnaeth yr ymchwilwyr ofyn am sylw ym meysydd bwydydd, diodydd, ffasiwn, offer peirianyddol, a chydrannau ceir.
Cafodd dros 1,000 o bobl eu holi ar-lein ym mhob un o'r gwledydd (heblaw Qatar, lle dim ond 153 wnaeth gymryd rhan) rhwng 2 Medi a 18 Medi.
Brandio
- Roedd nwyddau gyda'r label "Gwnaed ym Mhrydain" yn denu pris uwch na'r rhai oedd wedi eu labelu gydag enwau'r gwledydd unigol, ar wahân i alcohol lle'r oedd marchnadoedd yr Unol Daleithiau ac Iwerddon yn ffafrio'r label "Gwnaed yn yr Alban."
- Y marchnadoedd sy'n datblygu'n gyflym oedd â'r atyniad cryfaf tuag at y brand Prydeinig, gyda 31% yn barod i dalu mwy o'i gymharu â 14% o'r rhai mewn gwledydd gydag economïau sydd wedi datblygu.
- Mae oedolion ifanc o Ffrainc yn fwy parod i dalu mwy am fwyd wedi ei frandio o Gymru, na'r cyfartaledd ar gyfer holl boblogaeth Ffrainc.
- Mae oedolion ifanc o'r Almaen yn fwy parod i dalu mwy am nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yng Nghymru na'r cyfartaledd ar gyfer holl boblogaeth yr Almaen.
Dywedodd John Union, pennaeth corfforaethol Barclays yng Nghymru: "Mae cynnyrch o Gymru yn cael ei gysylltu gyda thraddodiad, ac felly mae'n hawlio pris da, ond mae'r adroddiad yn tanlinellu'r ffaith bod yna gyfle i ddefnyddio'r label "Gwnaed ym Mhrydain" er mwyn sicrhau mwy fyth o arian oddi wrth gwsmeriaid tramor. "