Cyngor i drafod cynnig uno
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i edrych ar y posibilrwydd o uno yn wirfoddol gyda chyngor cyfagos.
Fe wnaeth Cabinet y cyngor bleidleisio o blaid dechrau trafodaethau cyn belled a bod hynny o fudd.
Mae llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am weld Rhondda Cynon Taf yn uno gyda chyngor Merthyr.
Ar ôl y cyfarfod cabinet dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu y dylai'r cyngor hwn uno gyda Merthyr Tudful, ac eisoes rydym yn cydweithio ar nifer o wasanaethau, ond dyw hyn ddim yn golygu fod yr argymhelliad yn un cywir ar gyfer Rhondda Cynon Taf na Merthyr.
"Mae'n bosib y bydd un arall o'r cynghorau cyfagos, a dwi'n pwysleisio'r gair 'posib', mae'n bosib bod nhw'n gallu rhoi canlyniad gwell o gael uno."
Mae gweinidogion llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am leiauu nifer y cynghorau yng Nghymru, o 22 i 10 neu 12.
Byddai hynny yn cydfynd ag argymhellion Comisiwn Willaism.
Fis diwethaf fe wnaeth Cyngor Sir Conwy gytuno i ddechrau trafodaethau gyda Sir Ddinbych, ond mae cynghorau eriall fel Casnewydd wedi gwrthod unrhyw awgrym o uno.