Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Pryd mae angerdd yn troi'n obsesiwn? Dyna'r cwestiwn mae Rhys Hartley'n ei holi ar flog Golwg 360. Ers iddo fod yn ddim o beth, mae Rhys wedi bod yn dilyn pêl-droed, a chlwb pêl-droed dinas Caerdydd yn enwedig. Drwy ddilyn y diddordeb hwn mae wedi cwrdd â phobl newydd a theithio i lefydd gwych a gwyllt fel chweched dref Armenia, a wnaeth argraff fawr arno.
Ond yr wythnos ddiwethaf, sylweddolodd efallai bod 'na sylwedd i sylwadau'r bobl sy'n meddwl bod ei ddiddordeb wedi croesi rhyw ffin, pan gafodd ei hun, yn ugain oed, mewn tafarn ar ei ben ei hun ar nos Sadwrn, wedi teithio dros awr i wylio gêm rhwng dau dîm doedd ganddo ddim cysylltiad â nhw, mewn cynghrair doedd ganddo fawr o ots amdani, yn darllen llyfr am bêl-droed yn un o wledydd lleia'r byd ac yn gorfod ymdrechu i stopio'i hun rhag bloeddio enw chwaraewr amatur yng nghanol un o'r caneuon oedd yn chwarae ar jukebox y dafarn. Ac mae'n holi, ai gwallgof, angerddol neu jyst normal ydw i?
Ie, pobl ddigon od ydi'r ffans chwaraeon yma. Roedd Elin James Jones ar gwrs golff Gleneagles yr wythnos ddiwethaf i weld Ewrop yn ennill Cwpan Ryder - neu os credwch chi fwletinau newyddion Radio Cymru, i weld Cymru'n ennill Cwpan Ryder.
Beth bynnag, nid penderfyniad munud olaf oedd hyn, o na - un peth sy'n amhosib ei anwybyddu ym myd golff, medd Elin ar wefan Cymru Fyw yw pwysigrwydd rheolau:
"Yr etiquette - mae 'na drefn benodol, bwysig i bethe. Nid mater o gael tocyn papur yn eich llaw oedd hwn - mi oedd gynnon ni docynnau rownd ein gyddfau meddai, gyda chod arbennig, ynghyd â breichled a thocyn arbennig ar gyfer y car - y cyfan wedi'u cofrestru o flaen llaw.
Roedd 'na deimlad o bwysigrwydd, o statws, i'r digwyddiad o'r cychwyn cynta'. Rhaid oedd parcio'r car ryw hanner awr i ffwrdd, ac roedd 'na drefniadau trwyadl i sicrhau llif llwyddiannus i'r degau o filoedd o gefnogwyr rhyngwladol oedd ar bigau'r drain … i ddilyn pêl fach wen."
Na, dyw pawb ddim yn gwirioni'r un fath.
Mae wedi bod yn haf difyr i'r rheini sy'n gwirioni ar wleidyddiaeth, a thros yr wythnosau diwethaf cawsom benllanw traddodiadol y flwyddyn wleidyddol - cynadleddau'r pleidiau. Ond yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, mae'n "anodd cofio cyfres o gynadleddau gwleidyddol mor ddi-ffrwt â'r rhai sy'n digwydd ar hyn o bryd. Roedd dyn bron â mynd i gysgu - hyd yn oed o bell".
Mae'r cyfan yn ôl Dylan yn hollol wahanol i'r ysbryd oedd yn yr Alban tros ymgyrch y refferendwm, pan oedd pobl yn trafod pwynt gwleidyddiaeth yn hytrach na'r manion arwynebol, a'i neges yw bod rhaid cael ateb arall heblaw tra-arglwyddiaeth y canol i gynnig cyfeiriad newydd. Mi allai dod o hyd i ffyrdd newydd o ail-wreiddio gwleidyddiaeth ateb sawl cwestiwn yr un pryd.
Ond byddwch yn ofalus pa gwestiwn da chi'n ei holi i rywun sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol. Roedd wyneb y Lib Dem bach y bu Vaughan Roderick yn siarad â fe'n ddiweddar yn wyn a phanig gwyllt yn ei lygaid. Doedd Vaughan erioed wedi gweld unrhyw un yn edrych mor bryderus.
Cyfeirio at yr addewid a roddwyd i bobol yr Alban gan bleidiau mawrion San Steffan fel 'the pledge' oedd pechod Vaughan:
"'The vow' yw'r enw swyddogol. I'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'r gair 'pledge' yn cyfeirio at un addewid ac un addewid yn unig sef yr un a roddwyd gan y blaid i fyfyrwyr Prydain cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mewn geiriau eraill mae 'pledge' yn addewid sy'n saff o gael ei dorri."
Beth bynnag eich diddordeb neu obsesiwn, mae'n rhaid cael y geiriau'n iawn.