Trywanu brawd: yn euog o glwyfo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed drywanodd ei frawd chwe gwaith yn ddieuog o geisio llofruddio.
Yn ogystal fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd Eric Harvey yn ceisio achosi niwed difrifol.
Yn hytrach fe'i cafwyd o'n euog o glwyfo.
Fe ddywedodd y barnwr wrtho y dylai ddisgwyl cyfnod sylweddol o garchar.
Fe drywanodd Harvey ei frawd 43 oed, Mark, yn y cartref roedden nhw'n ei rannu gyda'u rhieni ym Mae Colwyn ar 6 Mai.
Adroddiad cyn-dedfrydu
Wrth grynhoi, fe ddywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod y diffynnydd wedi defnyddio cyllell yn erbyn dyn heb arf yn ei dŷ ei hun.
Fe gafodd y gwrandawiad dedfrydu ei ohirio er mwyn i'r gwasanaeth prawf lunio adroddiad cyn-dedfrydu.
Ychwanegodd y barnwr y byddai'n hoffi asesu risg y diffynnydd yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid i mi ddweud 'mod i'n eitha' pryderus am yr ymddygiad gafodd ei arddangos," meddai'r barnwr.
Fe gafodd Harvey ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad dedfrydu ym mis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- 9 Mai 2014