National Theatre Wales yn dechrau cynllun 'Cynulliadau'

  • Cyhoeddwyd
national theatre walesFfynhonnell y llun, National Theatre Wales

Heno ym Mangor bydd y Cynulliad yn cyfarfod.

Ond nid cyfarfod yn cynnwys 60 aelod etholedig yn cynrychioli pedair plaid o bob rhan o Gymru bydd hwn.

Dyma ddechrau prosiect tair blynedd gan y National Theatre er mwyn ceisio ysgogi trafodaeth mewn digwyddiadau a thrafodaethau arbennig a elwir yn 'Gynulliadau'.

Yn ôl datganiad gan y National Theatre Wales, gellid dadlau bod ein system wleidyddol yn gwegian yn ddifrifol:

"Ar draws y byd ymddengys bod ymdeimlad o anfodlonrwydd. A yw'n amser newid?"

Fel rhan o brosiect 'Democratiaeth Mawr' bydd cyfle i bobl drafod a gweithredu trwy berfformiad, celf a chreadigrwydd gan ddechrau yn Neuadd y Penrhyn am 7pm.

I'r rhai na fydd yn gallu bod yno, mae modd gwylio a chymryd rhan yn y Cynulliad cyntaf ar lein drwy ffrwd byw ar wefan y National Theatre a thrwy eu cyfrif Twitter.

Bydd llawer mwy o Gynulliadau a digwyddiadau tebyg, ar draws Cymru ac wedi'u harwain gan gymunedau lleol, yn ystod y tair blynedd nesaf.