Hart: 'Gwaith ar yr M4 yn hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
M4

Mae Edwina Hart wedi dweud wrth BBC Cymru bod mynd i'r afael â'r problemau traffig ar yr M4 yn hanfodol, er gwaethaf beirniadaeth gan ddau AC Llafur.

Dywedodd wrth Sunday Politics Wales nad oedd penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud ynghylch y prosiect ac na fyddai hynny'n digwydd tan ar ôl etholiad Cynulliad 2016.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth John Griffiths ac Alun Davies, cyn weinidogion oedd yn arfer bod â chyfrifoldebau amgylcheddol, ddweud mewn dadl yn y Senedd na ddylid adeiladu'r ffordd.

Nid yn unig hynny, roedd y ddau hefyd yn anhapus gyda'r ffordd y cafodd y penderfyniad ei wneud, gan nad oedd y pwyllgor oedd yn ymchwilio i'r mater yn fanwl wedi cyhoeddi ei adroddiad eto.

Ond dywedodd Ms Hart: "Rydym mewn democratiaeth ac mae gan bobl yr hawl i gael barn a dyw e ddim yn fy nychryn os oes rhywun â barn wahanol i mi."

'Dim penderfyniad'

Disgrifiad o’r llun,
Mae'n rhaid gwella'r M4 yn ôl Ms Hart

Er ei bod yn cydnabod bod nifer o ACau eraill yn gwrthwynebu - gyda Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn enwedig yn anghytuno'n chwyrn - gwadodd bod aflonyddwch yn cynyddu, gan ychwanegu ei bod wedi siarad gyda nifer o bobl ym myd busnes oedd yn "hapus iawn" â'r sefyllfa.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch chi, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud. Rwyf wedi gwneud penderfyniad ar y ffordd ry'n ni'n ffafrio a bydd e nawr yn cael asesiad amgylcheddol llawn.

"Mae hynny, rwy'n meddwl, yn siŵr o arwain at ymchwiliad cyhoeddus a bydd rhai gwneud penderfyniadau yn y tymor Cynulliad nesaf ynglŷn ag ydym am fwrw 'mlaen gydag e."

Yn y cyfweliad llawn mae hi'n dadlau bod parhau gyda'r sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd, gan fod yr holl giwio a'r oedi sy'n digwydd ar y draffordd yn ddyddiol, yn niweidio'r economi.

Pwerau benthyg

Disgrifiad o’r llun,
Y 'brif ffordd' oedd yr opsiwn gafodd ei ddewis gan Ms Hart, sef yr un ddu yn y llun uchod

Cafodd Llywodraeth Cymru bwerau benthyg newydd gan San Steffan er mwyn gallu ariannu'r prosiect, ond dyw'r swm fyddan nhw'n gallu ei godi - £500 miliwn - ddim yn ddigon i dalu am yr holl waith, sy'n debygol o gostio £1 biliwn.

Yn ôl Ms Hart mi fydd rhaid i fanylion penodol ynghylch arian gael eu trefnu yn y dyfodol, gan ychwanegu bod posibiliad y gallai'r swm maen nhw'n cael ei fenthyg godi yn y dyfodol.

Mae rhai yn rhagweld y bydd y gost o adeiladu'r ffordd, pe byddai hynny'n digwydd, yn cynyddu i fod yn llawer mwy na £1 biliwn.

Ond mae Ms Hart wedi gwarantu na fyddai hyn yn digwydd os mai hi fydd yn gyfrifol am y prosiect.

Dywedodd nôl yn mis Gorffennaf: "Fe alla i eich sicrhau chi - os mai fi sydd mewn rheolaeth fydd yna ddim cynnydd o gwbl mewn costau."

Mi fydd Sunday Politics yn cael ei ddarlledu ar BBC One am 11:15 fore Sul.