Connacht 24-24 Gleision
- Cyhoeddwyd

Daeth y Gleision yn ôl o sefyllfa oedd yn edrych yn druenus i gipio'r deubwynt yn Iwerddon.
Cyfartal oedd hi ar hanner amser ond fe ddechreuodd Connacht yr ail hanner yn gryf gyda'r pwyntiau'n cynyddu diolch i geisau gan Kieran Marmion a Nathan White.
Roedd y tîm cartref 24-10 ar y blaen yn bell i mewn i'r ail hanner ac mi fydda nhw'n crafu eu pennau i geisio deall sut lwyddon nhw i golli'r fantais.
Dechreuodd yr adfywiad ddeng munud o'r diwedd diolch i gais Macauley Cook ac fe lwyddodd Sam Hobbs i gael un arall cyn y diwedd, gyda throsiadau Adam Patchell yn sicrhau gêm gyfartal i'w dîm.
Timau
Connacht: Darragh Leader; Niyi Adeolokun, Robbie Henshaw, Craig Ronaldson, Danie Poolman; Jack Carty, Kieran Marmion; Ronan Loughney, Dave Heffernan, Nathan White; Mick Kearney, Quinn Roux; John Muldoon (capten), Willie Faloon, Geroge Naoupu.
Eilyddion: Shane Delahunt, Denis Buckley, Rodney Ah You, Aly Muldowney, Eoin McKeon, Ian Porter, Fionn Carr, Shane Layden.
Gleision Caerdydd: Adam Thomas; Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Dan Fish; Rhys Patchell, Lewis Jones; Gethin Jenkins, Matthew Rees (capten), Taufa'ao Filise; Jarrad Hoeata, Filo Paulo; Macauley Cook, Manoa Vosawai, Sam Warburton.
Eilyddion: Kristian Dacey, Sam Hobbs, Scott Andrews, Josh Turnbull, Josh Navidi, Tavis Knoyle, Gareth Davies, Geraint Walsh.