Gŵyl genedlaethol i amgueddfeydd Cymru
- Published
Bydd amrywiaeth eang o arddangosfeydd a digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn amgueddfeydd ledled Cymru, am wyth diwrnod o ddydd Sadwrn ymlaen.
Yn amrywio o gofnodi 150 o flynyddoedd o bêl-droed clwb Wrecsam, i adrodd hanes llysiau'r cwsg [opium poppy] yng nghyfnod y Rhufeiniaid, bydd amgueddfeydd ar draws Cymru yn cymryd rhan yn yr ŵyl gyntaf o'i math.
Yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd cyfle i ymwelwyr gael mynediad arbennig i'r casgliadau y tu ôl i'r llenni a gweithdai.
Mae'r Ŵyl yn cyd-fynd â Chynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd sydd ar 9-10 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Bydd mwyafrif y digwyddiadau, sy'n amrywio o ardal i ardal, yn rhad ac am ddim.
'Ysbrydoledig'
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Mae amgueddfeydd yn fwy na chasgliad o adeiladau a gwrthrychau.
"Maen nhw'n darparu profiadau fforddiadwy, ysbrydoledig a dyrchafol a lleoedd i fynd, ar eu pen eu hunain neu gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, gan gynorthwyo i wella ansawdd eu bywyd.
"Hoffwn annog cynifer o bobl â phosib i ymweld ag amgueddfa yn ystod yr Ŵyl, a darganfod neu ailddarganfod yr holl bethau sy'n cael eu cynnig."
Mae yna 94 o amgueddfeydd wedi'i hachredu yng Nghymru, gan ofalu am tua 5,500,000 o eitemau.
Amgueddfa Abertawe, a sefydlwyd yn 1841, yw'r amgueddfa hynaf yng Nghymru.
Erbyn heddiw mae hanner amgueddfeydd Cymru yn rhoi mynediad am ddim.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Mehefin 2010
- Published
- 12 Tachwedd 2013