Dyfais ar draeth Morfa Dyffryn: rhybudd i'r cyhoedd gadw draw
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i'r cyhoedd gadw draw am fod dyfais ar draeth yng Ngwynedd.
Cyrhaeddodd Gwylwyr y Glannau ac uned difa bomiau wedi i ffrwydryn gael ei olchi i'r lan fore Gwener ym Morfa Dyffryn rhwng Y Bermo a Mochras.
Mae'r ardal wedi ei chau.