Byd yr Opera: Dathlu 70
- Published
Bydd un o sefydliadau amlycaf Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig yn 2016. Bryd hynny bydd y Cwmni Opera Cenedlaethol yn 70.
Mewn blog arbennig i BBC Cymru Fyw, mae Cadeirydd y WNO, Geraint Talfan Davies, yn edrych nôl ar ddatblygiad y cwmni a'r heriau sy'n ei wynebu:
Dathliadau
Mae'n anodd credu bod WNO wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dathlu pen-blwydd y cwmni yn 70 oed. Rwy'n medru cofio - fel tase'n ddoe - eistedd yn Neuadd Dewi Sant yn gwrando ar gyngerdd i ddathlu hanner-canfed pen-blwydd y cwmni yn 1996 - noson pan gododd y dorf gyfan i ganu 'Va Pensiero', y corws enwog o Nabucco.
Mae penblwyddi felly yn bwysicach fyth wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Mae gan WNO dipyn o ffordd i fynd i efelychu Cwmni Opera Metropolitan Efrog Newydd, sydd erbyn hyn yn 134 mlwydd oed. Ond, er mawr syndod i fi, mae'r Cwmni Opera Brenhinol yn Covent Garden flwyddyn yn ifancach na'r WNO, er bod ei adeilad yn llawer iawn hŷn.
Perfformiodd WNO am y tro cyntaf ar 15fed o Ebrill, 1946, bron naw mis cyn i'r Cwmni Opera Brenhinol agor ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn - ar y pryd dan yr enw 'Covent Garden Opera Company'.
Ymroddiad
Ond gan bwyll - mae gennym ddwy flynedd i fynd cyn y dathlu. Un peth sy'n sicr, bydd y cwmni yn cyrraedd oes yr addewid yn yr un hinsawdd lem a phan aned y cwmni, ac yn llawn mor benderfynol i oroesi.
Mae gan gwmnïau artistig wytnwch - sy'n deillio o'u hangerdd a'u hymroddiad at y dasg - sydd hefyd yn eu galluogi i oresgyn pob sialens ariannol. Mae llywodraeth yn aml yn cymryd y gwytnwch hwn yn ganiataol. Bydd ei angen arnom yn y blynyddoedd nesaf, oherwydd anodd yw gweld diwedd i'r wasgfa gyllidol.
Dewrder
Mae'r angerdd sy'n nodweddiadol o'r cwmni yn codi o'i gwreiddiau yn nhraddodiadau cryf cerddoriaeth amatur yng Nghymru. Crëwyd y cwmni gan Idloes Owen, mab i löwr, ac yn athro canu ac arweinydd corawl yng Nghaerdydd. Hyfforddodd Syr Geraint Evans. Gan Idloes Owen oedd y dewrder a'r hyder i sefydlu cwmni opera ym mis Rhagfyr 1943, ar ganol rhyfel byd.
Bu ymgais i sefydlu Cwmni Opera Cenedlaethol nôl ym 1890, ond bu taith gyda dwy opera gan Joseph Parry - Arianwen a Blodwen - yn drychineb ariannol ac aeth y cwmni i'r wal. Am 7 o'r gloch ar yr ail o Ragfyr 1943 ymgasglodd 28 o bobl yng Nghapel y Methodistiaid yn Cathays yng Nghaerdydd i sefydlu cwmni o gantorion amatur i ddysgu chwe opera mewn tair blynedd.
'Calon cerddoriaeth Cymru'
Am bron i saith degawd mae WNO wedi bod wrth galon bywyd cerddorol Cymru, yn glynu at y safonau gorau posib, yn meithrin cantorion ifanc trwy gyfrwng ein clybiau canu - sydd ar gael i bobl ifanc o ddeg oed ymlaen - a hefyd trwy ein partneriaeth glos gyda Choleg Cerdd a Drama Cymru.
Mae WNO yn ychwanegu yn gyson at y stôr o atgofion gwefreiddiol sydd gan ein cynulleidfaoedd. Bydd perfformiad cyntaf o 'In Parenthesis' yn 2016 yn siŵr o ychwanegu un arall - yn coffau aberth milwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym mrwydr Mametz Wood ym 1916, a hefyd yn dathlu cerdd epig David Jones, cerdd a ddisgrifiwyd gan T. S. Eliot fel y gampwaith artistig fwyaf i ddeillio o'r Rhyfel Mawr.