Protest dros ddrewdod 'erchyll' yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae pentrefwyr yng Nghonwy wedi cynnal protest ddydd Sadwrn, yn galw am atal "drewdod erchyll" o safle trin dŵr lleol.
Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Ddŵr Cymru i weithredu ym mhentref Glan Conwy.
Dywedodd y cynghorydd cymunedol, Dan Worsley, bod yr arogl mor ddrwg ei fod yn "codi cyfog ar bobl".
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro, ac yn dweud eu bod yn parhau i fuddsoddi i wella perfformiad y safle.
Dywedodd Mr Worsley nad pobl leol yn unig oedd yn cael eu heffeithio, ond pobl yn teithio ar yr A470.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wario arian i'w wneud yn iawn yn y pen draw," meddai.
Tywydd sych
Yn ôl Dwr Cymru, mae gan y safle, sy'n gwasanaethu bron i 90,000 o bobl yn Hen Gonwy, Conwy a Glan Conwy, rôl hanfodol mewn amddiffyn iechyd cyhoeddus.
"Er i ni fod yn ymwybodol o broblemau drewdod hanesyddol gyda'r gweithfeydd, dim ond yn ddiweddar ydyn ni wedi bod yn ymwybodol o'r problemau y mae pobl Glan Conwy yn eu profi," meddai'r cwmni.
"Wrth gwrs rydyn ni yn flin iawn i glywed hyn a hoffwn ymddiheuro am unrhyw drafferth sydd wedi ei achosi."
Ychwanegodd y cwmni y gall y tywydd sych diweddar fod yn rhannol gyfrifol.
Dywedodd y llefarydd eu bod wedi cysylltu hefo pobl leol, a bod y cwmni am barhau i fuddsoddi i wella'r gwasanaeth.
Roedd busnesau ym mharc busnes Parc Menai ger Bangor wedi cwyno am sefyllfa debyg yn ddiweddar, gan ddweud bod drewdod o waith trin dŵr Treborth yn "ofnadwy".
Dywedodd rhai o'r 80 o fusnesau ar y safle eu bod yn ystyried symud o'r parc, gan fod y drewdod mor ddrwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2014