Ymestyn cytundeb cwmni trenau First Great Western
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC yn deall y bydd cwmni trenau First Great Western, sy'n rhedeg gwasanaethau yn ne Cymru, yn cael estyniad o bum mlynedd ar eu cytundeb, heb gystadleuaeth gan gwmnïau eraill.
Mae'r cwmni eisoes wedi cael dau estyniad yn y ddwy flynedd diwethaf.
Gall yr estyniad alluogi i gynllun trydaneiddio'r rheilffyrdd fynd yn ei blaen, ond mae Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth yn flin gyda'r penderfyniad.
Ymysg y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y cwmni yw'r gwasanaeth o Lundain i dde Cymru.
Dywedodd Brendon Kelly o Undeb yr RMT: "Mae'r holl fuddsoddiad yn dod o'r llywodraeth, does dim yn dod gan y gweithredwyr preifat, yn llythrennol maen nhw'n ei reoli a rhannu'r buddrannau ymysg eu cyfranddalwyr.
"Mae hynny'n arian all gael ei wario ar y rheilffyrdd."
Mae tua £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn trydaneiddio'r rheilffyrdd rhwng Bryste a Chaerdydd, fyddai'n cynnwys gwaith sylweddol fel codi pontydd.
Mae'r BBC yn deall mai'r bwriad yw cwblhau'r cynllun trydaneiddio cyn cynnig y fasnachfraint i gwmnïau eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain: "Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau gwell, mwy o seddi a mwy o drenau ar draws y rhwydwaith drenau ar draws y de orllewin fel rhan o'n cynllun economaidd.
"Fel rhan o'r broses rydyn ni'n trafod cytundeb uniongyrchol gyda First Great Western i barhau i weithredu gwasanaethau. Nid ydyn ni wedi penderfynu beth fydd hyd y cytundeb yna."