Abertawe 2-2 Newcastle

  • Cyhoeddwyd
Papiss CisseFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae goliau Papiss Cisse wedi tynnu'r pwysau oddi ar reolwr Newcastle, ond bydd Abertawe yn siomedig nad oedden nhw wedi ennill y gem

Cafodd Abertawe eu dal i gêm gyfartal yn erbyn Newcastle brynhawn Sadwrn, er iddyn nhw fynd ar y blaen ddwy waith.

Wilfried Bony sgoriodd y gôl gyntaf yn y Liberty, ei gyntaf ef o'r tymor, gan fanteisio ar amddiffyn gwael gan yr ymwelwyr.

Yn dilyn pasio da rhwng yr ymosodwr a Gylfi Sigurdsson, saethodd Bony yn isel heibio Tim Krul wedi 17 munud.

Papiss Cisse oedd yr arwr i Newcastle, gan rwydo yn fuan cyn yr hanner i'w gwneud hi'n 1-1 ar yr egwyl.

Wedi pasio da eto gan Sigurdsson, daeth ail gôl i'r Elyrch gan Wayne Routledge pum munud i mewn i'r ail hanner.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Wayne Routledge ei ail gol y tymor hwn

Ond doedd dynion Garry Monk methu a dal ymlaen i sicrhau'r fuddugoliaeth, a Cisse unwaith eto achubodd tim Alan Pardew.

Rhwydodd o groesiad o'r ochr dde gyda chwarter awr ar ôl yn y gêm, i sicrhau pwynt i'r ddau dim.

Bydd yr Elyrch yn siomedig iddyn nhw beidio a sicrhau'r triphwynt, ond mae'r canlyniad yn tynnu pwysau oddi ar Alan Pardew.