Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Cymru

Airbus UK 2-3 Y Seintiau Newydd

Adrian Cieslewicz roddodd y Seintiau ar y blaen wedi 18 o funudau cyn i Matty McGinn unioni'r sgôr gyda chic o'r smotyn.

Rhoddodd Michael Wilde yr ymwelwyr ar y blaen unwaith eto wedi 33 o funudau, ond roedd y tîm cartref yn obeithiol o ennill pwynt pan sgoriodd Ian Kearney ar ôl tua awr o chwarae.

Ond yn y munudau olaf daeth gôl arall gan Wilde i gipio'r pwyntiau i'r Seintiau.

Bangor 1-2 Caerfyrddin

Doedd cic o'r smotyn gan Jack Laird yn ddim ond gol gysur i Fangor brynhawn Sadwrn, wrth i Gaerfyrddin deithio yn ôl i'r de gyda'r triphwynt.

Wedi hanner cyntaf ddi-sgôr, sgoriodd Luke Prosser yn gynnar wedi'r egwyl.

Ychwanegodd Liam Thomas yr ail wedi 69 o funudau, ac er y gôl hwyr doedd Bangor methu a sicrhau pwynt.

Y Drenewydd 6-3 Aberystwyth

Aeth Y Drenewydd 3-0 i fyny wedi llai na 25 munud yn erbyn Aberystwyth, gyda goliau gan Jason Oswell a Luke Boundford.

Daeth pedwerydd i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf gan Matthew Hearsey, cyn i ddwy gan Chris Venables bob ochr i'r egwyl roi ychydig o obaith i Aberystwyth.

Ond Y Drenewydd aeth a'r pwyntiau, wrth i Boundford gwblhau ei hatric, er gwaethaf gol gysur i'r ymwelwyr gan Mark Jones.

Prestatyn 0-4 Derwyddon Cefn

Unochrog iawn oedd hi ym Mhrestatyn, wrth i Dderwyddon Cefn ennill yn gyfforddus.

Karl Noon sgoriodd gyntaf cyn i Ryan Edwards sgorio bob ochr i'r egwyl.

Lee Healy gwblhaodd y fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm.