Protest dros ystyried y Gymraeg yn y mesur Cynllunio
- Cyhoeddwyd

Mae tua 200 o brotestwyr wedi cynnal rali ym Mhwllheli yn galw am roi lle canolog i'r Gymraeg yn y drefn gynllunio.
Pryder y protestwyr yw bod datblygiadau mawr fel rhai ym Mhenrhosgarnedd ger Bangor, ac ym Mhwllheli ei hun, yn cael effaith negyddol ar yr iaith.
Yn siarad yn y rali, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod y mesur drafft cynllunio yn "gwrthod ystyried anghenion cymunedau lleol".
Mae disgwyl i'r llywodraeth wneud cyhoeddiad ar y mesur cynllunio yr wythnos nesaf, ond dywedodd llefarydd y byddai'r mesur yn gwella'r system er lles i bawb.
Adroddiad Sion Tecwyn
'Gweddu anghenion Cymru'
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan: "Mae angen i'r mesur gynnwys y Gymraeg, mae'n rhaid i'r Gymraeg fod yn ganolog i'r bil.
"Mae'n rhaid i ni gael bil sy'n gweddu anghenion Cymru - fel mae Carwyn Jones eisoes wedi addo.
"Mae angen asesu effaith ar y Gymraeg, ar ran pob cynllun ar draws Cymru."
Ychwanegodd Leanne Wood bod y mesur cynllunio yn effeithio ar gymaint o bobl, ond yn "methu mewn cymaint o ffyrdd" ac yn "gwrthod ystyried anghenion cymunedau lleol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r mesur cynllunio yn gwella'r system yng Nghymru er lles pawb.
Ychwanegodd y llefarydd y dylai cynghorau Cymru roi ystyriaeth i'r iaith Gymraeg yn eu cynlluniau datblygu lleol.