Rhydychen 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd wedi disgyn i'r 18fed safle yn yr Ail Adran yn dilyn colled oddi cartref yn erbyn Rhydychen.
Michael Collins sgoriodd unig gol y gêm yn yr hanner cyntaf i sicrhau colled cyntaf i Gasnewydd mewn wyth gem.
Daeth y gôl o gic cosb ac er i Rydychen orfod chwarae hefo 10 dyn ar ol i Tyrone Barnett gael cerdyn coch, doedd Casnewydd methu cipio unrhyw bwyntiau.
Cafodd yr ymosodwr ei yrru o'r cae ar ol cael dau gerdyn melyn.
Roedd cyfleoedd i Joe Pigott a Chris Zebroski yn hwyr yn y gêm ond doedden nhw methu manteisio.