Torquay 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Er iddyn nhw fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, colli oedd hanes Wrecsam yn erbyn Torquay.
Fe wnaeth ergyd wych Luke Young o du allan i'r cwrt cosbi sicrhau'r pwyntiau i Torquay, sy'n symud uwchben Wrecsam i'r drydydd safle yn y Gyngres.
Louis Moult roddodd Wrecsam ar y blaen, gan neidio ar y bel ar ol i golwr Torquay arbed ergyd.
Ond sgoriodd Louis Briscoe wedi awr o chwarae, ac yna Young yn hwyr yn y gem i sicrhau'r pwyntiau.
Mae Wrecsam yn symud i'r seithfed safle yn y tabl.