Arestio dyn ar ôl iddo gael ei achub o adeilad

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth, ar ôl iddo gael ei achub o adeilad gan y Gwasanaeth Tân nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddyn oedd wedi ei ddal y tu ôl i ffens ddiogelwch swyddfa ar Stryd y Castell, Abertawe.

Roedd rhaid i griwiau tân ddefnyddio offer arbennig i dorri'r ffens a rhyddhau'r dyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Roedd dyn wedi ei ddal y tu mewn i'r adeilad. Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub gais i gynorthwyo'r gwaith o ryddhau'r dyn o'r adeilad."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae dyn 37 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth ac mae yn y ddalfa."