Arweinydd: 'Peidiwch ymyrryd â chynghorau'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd un o gynghorau gogledd Cymru wedi galw ar weinidogion y llywodraeth i gadw allan o benderfyniadau awdurdodau am wneud toriadau.
Dywedodd Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, na ddylai gwasanaethau statudol gael eu harbed rhag toriadau, os oes ffyrdd o'u rhedeg yn fwy effeithiol.
Bydd cynghorau yn cael gwybod faint o doriadau fydd i'w cyllidebau ar gyfer 2015/16 ddydd Iau.
Ond yn siarad ar raglen y Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, fe alwodd Mr Evans am i'r llywodraeth roi ffydd mewn awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu adnoddau yn y ffordd orau i gyrraedd anghenion pobl leol.
'Peidiwch ymyrryd'
"Rhowch gyfle i ni wneud hyn ar ben ein hunain," meddai.
"Peidiwch ymyrryd yw'r neges y buaswn i yn ei gynnig i Lywodraeth Cymru."
Mae'r cyngor eisoes wedi dweud eu bod yn disgwyl gorfod gwneud gwrth £8.5m o doriadau.
Dywedodd wrth Radio Wales ei fod yn disgwyl i'r setliad olygu y bydd rhaid colli swyddi.
"Rydyn ni wedi gweithredu cyllidebau drwy ddiogelu swyddi ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen; ni fydd y lefel yma o doriadau yn ein galluogi ni i wneud hynny.
"Yn anffodus, bydd diswyddiadau.
"Hoffwn ni gael y cyfle i wneud toriadau i wasanaethau sy'n hanfodol drwy wneud pethau mewn dulliau gwahanol."
Diffyg buddsoddiad i'r gogledd
Dywedodd hefyd bod y cyngor yn bwriadu edrych ar godi tal, neu gynyddu tal sydd eisoes yna, am rai gwasanaethau.
Ychwanegodd Mr Evans, sy'n arweinydd y grŵp annibynnol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bod y gogledd yn methu allan o ran gwariant ar gynlluniau isadeiledd mawr.
"Mae 'na amcan, dros y tair neu bedair blynedd nesaf, bydd tua £1.4 biliwn o fuddsoddiad yn ne Cymru ac mae'n bryderus yn nhermau buddsoddiad cyfalaf bod cynllun am £10m o fuddsoddiad rhywle yng ngogledd Cymru a dyna'r neges gan y gyllideb ddrafft."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu adnoddau yn y ffordd orau i gyrraedd anghenion pobl leol.
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn buddsoddi er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau o greu swyddi ar hyd a lled Cymru.
"Fel rhan o hyn, rydyn ni'n darparu £10m ychwanegol i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi £12m yn 2015-16 i welliannau i dwneli'r A55 a £5m i ail-ddatblygu Ysbyty Glan Clwyd.
"Bydd gogledd Cymru hefyd yn elwa o fuddsoddiad ychwanegol o £32m mewn tai, £5m i hyrwyddo twf dros Gymru a £10m i raglen Band Eang."