Port Talbot 1-1 Gap Cei Cona

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Cymru

Cyfartal oedd hi yn Stadiwm GenQuip wrth i Gei Cona gipio pwynt ym Mhort Talbot ddydd Sul.

Y tîm cartref aeth ar y blaen gyntaf, wrth i Rhys Griffiths benio ei gol gyntaf o'r tymor i'r rhwyd ar ôl 14 munud.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth i Gei Cona cyn yr egwyl, wrth i Gary O'Toole gael ei yrru o'r cae am dderbyn dau gerdyn melyn.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn well yn yr ail hanner, ac o fewn 10 munud o chwarae, roedd Sean Miller wedi sgorio ei drydydd gol mewn tair gem i ddod a Chei Cona yn gyfartal.

Gyda llai na 20 munud yn weddill, cafodd Carl Evans ei yrru o'r cae, a llwyddodd y ddau dîm i ddal ymlaen i ennill pwynt erbyn y diwedd.

Mae'r canlyniad yn symud Gap Cei Cona oddi ar waelod Uwch Gynghrair Cymru, tra bod Port Talbot yn seithfed.