Ap yn achub cwpl oddi ar y mynydd
- Cyhoeddwyd

Mae mynydd Tryfan yn Nyffryn Ogwen yn mesur dros 3000 troedfedd o uchder
Cafodd ap ar ffôn symudol newydd ei ddefnyddio i achub cwpl oddi ar Tryfan yn Eryri neithiwr.
Wedi iddo golli ei ffordd, cafodd dyn 27 oed nifer o anafiadau pan syrthiodd 30 troedfedd ar y mynydd, sy'n 3,000 troedfedd o uchder.
Fe lwyddodd ei gariad i ddringo i lawr y ceunant i ffonio 999.
Wedi i'r tîm achub mynydd ddod o hyd iddyn nhw yn defnyddio ap arbennig ar ffôn symudol - fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd, a chafodd y ddynes ei thywys i lawr y mynydd.
Mae'r cwpl lleol yn gerddwyr profiadol.
Straeon perthnasol
- 14 Chwefror 2012