Ffonau symudol: Heddlu yn targedu gyrwyr

  • Cyhoeddwyd
ffon wrth yrru
Disgrifiad o’r llun,
Yn ystod ymgyrch 2013 cafodd 1,095 o bobl eu dal yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru.

Mae'r pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi lansio ymgyrch ar y cyd, i dargedu modurwyr sy'n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.

Heddlu Gogledd Cymru fydd yn arwain yr ymgyrch, ynghyd â'u cydweithwyr o'r lluoedd eraill a swyddogion Diogelwch Ffyrdd ar hyd Cymru.

Nod yr ymgyrch, fydd yn parhau am bythefnos rhwng 6-19 Hydref, yw annog modurwyr i "ganolbwyntio ar y ffordd' a pheidio â gadael i'w sylw gael ei dynnu drwy ateb eu ffôn symudol, darllen neges testun neu fynd ar y rhyngrwyd."

Yn ôl yr Heddluoedd, bydd patrolau yn cynyddu ar draws y wlad yn ystod yr ymgyrch er mwyn hyrwyddo'r neges o ddiogelwch ar y ffyrdd a chodi ymwybyddiaeth gyrwyr o beryglon defnyddio ffôn symudol wrth yrru a'r cosbau y gellir eu rhoi am wneud hynny. Un ffordd o ddal troseddwyr yw faniau camerâu diogelwch 'Gan Bwyll', gan eu bod hwythau bellach yn gallu cofnodi troseddau ffonau symudol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Dim ond un rhan o'n hymdrech barhaus i dargedu a lleihau'r nifer o yrwyr sydd mewn perygl o fod mewn gwrthdrawiad difrifol neu angheuol oherwydd eu bod yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru yw'r ymgyrch hon.

"Ar y cyd ag yfed a gyrru, goryrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a gyrru'n ddiofal, mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru, boed hynny er mwyn anfon neges testun, defnyddio ap, neu'n ffonio rhywun, yn un o'r "5 Angheuol" , sef y 5 peth mwyaf cyffredin sy'n achosi gwrthdrawiadau angheuol.

Cynnydd mewn ffonau clyfar

Dywedodd Mr Wareing oherwydd y cynnydd yn y defnydd o ffonau clyfar mae'r heddlu wedi gweld bod sylw gyrwyr yn cael ei dynnu oddi ar eu gyrru wrth iddyn nhw ddefnyddio aps neu'r rhyngrwyd, neu ddarllen e-byst ar eu ffonau. "Mae angen i yrwyr sylweddoli bod gwneud y pethau hyn yr un mor beryglus ac yn cario'r un gosb."meddai.

Yn ystod ymgyrch 2013 cafodd dros 1,000 o fodurwyr eu dal yn gyrru wrth ddefnyddio eu ffonau symudol, gyda 95 o droseddwyr yn ardal Gogledd Cymru.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Wareing: "Mae'n siom enfawr bod nifer o bobl yn parhau i anwybyddu ein rhybuddion."

Meddai Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch y Ffyrdd Cymru: "Mae ymgyrchoedd fel hyn yn dangos ymrwymiad partneriaid Diogelwch y Ffyrdd Cymru i daclo'r broblem hon ac fe wnawn barhau i gydweithio er mwyn trosglwyddo'r neges bod angen diffodd y ffôn cyn cychwyn y car."

Drwy gydol yr ymgyrch bydd yr heddlu a'u partneriaid yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn trosglwyddo'r negeseuon gan ddefnyddio'r hash nod #5angheuol a #llygaidaryffordd.