Carchar Wrecsam: Angen mwy o waith ymchwil?
- Cyhoeddwyd

Mae academydd wedi dweud bod cwestiynau heb eu hateb am yr effaith caiff y "carchar anferth" newydd ar ardal Wrecsam.
"Mae'n rhaid i faterion fel plismona a gofal iechyd ychwanegol gael eu hystyried", dywedodd Robert Jones o Brifysgol Caerdydd.
Daw'r sylwadau wrth i AS Wrecsam, Ian Lucas, godi pryderon ynglŷn â'r pwysau ychwanegol ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn sgil cynnydd mewn teithwyr fydd yn ymweld â'r carchar.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn cymryd rhan yn y broses gynllunio, ac mae'r heddlu yn cynnal eu hymchwil eu hunain.
Cyfarfod nos Lun
Bydd materion cynllunio ychwanegol yn cael eu trafod gan gynghorwyr mewn cyfarfod yn Wrecsam nos Lun.
Bydd y "carchar anferth" sy'n mynd i gostio £250 miliwn, yn cael ei gwblhau yn 2017, a bydd yn dal 2,000 o garcharorion, gan ei wneud y carchar mwyaf yn y DU.
"Mae'n hanfodol bod y materion hyn yn cael sylw yn llawn cyn bod yr un fricsen o'r carchar newydd yn cael ei gosod," meddai Mr Jones, cydymaith ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n archwilio materion sy'n effeithio ar y gyfraith sy'n cwmpasu Cymru, gwleidyddiaeth a llywodraeth.
Mae Mr Jones wedi bod yn ymchwilio i'r carchar anferth ers i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer Wrecsam ym mis Medi 2013.
Dywedodd Mr Jones: "Ers y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd gan y pwyllgor cynllunio ym mis Ionawr 2014, mae tystiolaeth wedi dod i'r amlwg bod angen ystyried effaith y carchar ar Wrecsam."
Ym mis Mehefin, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai'r carchar newydd yn creu "goblygiadau buddsoddiad sylweddol" ar y gwasanaeth iechyd yn lleol, ac felly eu bod yn chwarae rhan lawn wrth gynllunio ar gyfer y prosiect.
Angen archwiliad manwl?
Ar y pryd dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai costau ac effaith y carchar ar y GIG yn cael ei archwilio'n fanwl.
Mae'r ganolfan ymchwil wedi ystyried materion plismona ychwanegol yn ymwneud â digwyddiadau sydd wedi bod mewn carchardai eraill yng Nghymru'r llynedd, ac yn dweud bod angen ystyried achosion tebyg yn Wrecsam.
Dywedodd Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn edrych i mewn i unrhyw oblygiadau posibl o ran plismona.
"Mae'r ymchwil parhaus yn cynnwys astudio ardaloedd eraill lle mae carchardai wedi cael eu lleoli i weld a allwn ni ddysgu o'u profiad." meddai.
Yn y cyfamser, dywedodd yr AS lleol Mr Lucas wrth bapur newydd y Leader ei fod wedi gweld ffigyrau yn dangos bod carchar yn yr Alban, sydd draean maint y carchar sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Wrecsam, wedi gweld nifer y teithwyr yno yn codi bron i 10,000 yn y pum mlynedd ers ei agor o ganlyniad i bobl yn ymweld â'r carchar.
Ac er ei fod yn cydnabod bod y rheilffordd drwy Wrecsam yn mynd drwy broses uwchraddio gwerth £44 miliwn, gofynnodd "a oedd digon yn cael ei wneud i ddelio â chynnydd mewn teithwyr?"
Ymysg y manylion cynllunio ychwanegol bydd yn cael eu trafod nos Lun bydd parcio, goleuadau a draenio ychwanegol.
Ym mis Awst, dechreuodd y gwaith o baratoi'r safle ar gyn safle ffatri Firestone a fydd yn gartref i'r carchar.