Ffrae wedi gorymdaith Mari Jones
- Published
Mae rhai o drigolion y Bala wedi dweud eu bod yn siomedig gyda'r gweithgareddau oedd wedi eu trefnu wrth ddathlu agor canolfan Byd Mari Jones ddydd Sul.
Yn ôl Mari Williams, golygydd papur y Cyfnod, roedd rhai pobl wedi cael 'siom ofnadwy' ac roedd eraill yn dweud nad oedd yna ddigon o Gymraeg.
Cymdeithas y Beibl sydd wedi prynu Eglwys Llanycil ar lannau Llyn Tegid a'i throi'n ganolfan fodern i adrodd hanner Mari Jones - y ferch ifanc gerddodd 26 milltir yn droednoeth i brynu Beibl Cymraeg.
Fel rhan o'r gweithgareddau i ddathlu agoriad swyddogol y ganolfan roedd plant a'u rhieni wedi cerdded o Gapel Tegid yn y Bala i Eglwys Llanycil ar lannau Llyn Tegid.
Rodd pabell fawr wedi ei chodi ar dir yr eglwys er mwyn darparu bwyd a diod ar gyfer rhyw 300 o wahoddedigion ledled y byd.
'Positif'
Ond yn ôl Mari Williams roedd yna deimlad o "ni" a "nhw".
"Doedd yna ddim croeso gan neb, doedd neb yno i groesawu'r plant. Doedd dim hyd yn oed diod iddyn nhw.
"Roedd yna babell enfawr ar gyfer rhyw 300 o wahoddedigion o bedwar ban byd. Ond doedd y plant ddim yn cael mynd i mewn, doeddan nhw chwaith ddim yn cael mynd i'r eglwys na'r parc chwarae.
"Roedd pobl leol yn teimlo dan draed yn fwy na dim. "
Dywedodd Paul Woolley, cyfarwyddwr gweithredol Cymdeithas y Beibl, ei fod yn ymddiheuro pe bai pobl wedi eu siomi ond eu bod nhw fel Cymdeithas wedi cael ymateb hynod o bositif.
"Cawsom ein synnu o'r ochr orau gan y gefnogaeth leol, dyw e ddim yn ormodaeth i ddweud heb eu cefnogaeth nhw byddai hyn heb ddigwydd. "
Dywedodd fod y babell wedi ei chodi er mwyn darparu lluniaeth ar gyfer 300 o wahoddedigion, a bod y bobl hyn yn dod o bob cwr o'r byd.
Gorymdaith
Roeddyn nhw, meddai, wedi gwneud eu gorau i wneud pobl yn ymwybodol o hyn.
Dywedodd ei fod yn synnu am y feirniadaeth o ddiffyg defnydd o'r Gymraeg,
"Mae'r ganolfan yn ganolfan ddwyieithog, roedd digwyddiadau'r dydd hefyd yn ddwyieithog. "
Ychwanegodd y bod nifer o'r gwesteion yn dod o wledydd tramor a bod angen defnyddio Saesneg er mwyn cyfathrebu.
"Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni ond wedi cael ymateb positif i'r gweithgareddau."
"Fel arwydd o ewyllys da mae Cymdeithas y Beibl yn hapus i gynnig mynediad a pharcio am ddim drwy gydol mis Hydref i unrhyw blentyn a rhieni a orymdeithiodd ddoe.
"Rydym yn hyderus hefyd y bydd y ganolfan yn denu rhwng 5,0000 a 10,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a bydd hyn hefyd yn hwb mawr i'r economi leol."
Un o'r rhai oedd yn bresennol yn y babell oedd Mari Penri, Cadeirydd Cymdeithas y Beibl ym Mhenllyn.
Dywedodd hi nad oedd modd darparu bwyd ar gyfer pawb.
Ychwanegodd bod y babell ar gyfer gwahoddedigion ac y dylai pobl fod yn gwybod hynny.