Carcharu llofrudd am oes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddio ei gariad.
Cafodd corff Jessica Watkins, 21 oed, ei ddarganfod yn y bath mewn tŷ yng Nghasnewydd.
Roedd Kristopher Mitchell, 28 oed, wedi cyfaddef iddo lofruddio Jessica mewn gwrandawiad blaenorol a chafodd ei garcharu am 16 mlynedd a 8 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Cafodd Mitchell ei arestio yn ei gartref ar Stryd Bryn Bevan ar Stad Brynglas yng Nghasnewydd wedi i gorff Jessica gael ei ddarganfod yn y tŷ hwnnw ym mis Mai.
Dywedodd teulu Jessica, o Gaerllion, wrth roi teyrnged iddi: "Cafodd ei chymryd oddi wrthym yn rhy gynnar. Byddwn yn ei charu am byth."
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Roger Fortey: "Dioddefodd Jessica Watkins ymosodiad creulon gan ei chariad ar y pryd, Kristopher Mitchell, ym mis Mai eleni.
"Derbyniodd anafiadau difrifol a achosodd ei marwolaeth.
"Roedd gan Jessica deulu oedd yn ei charu, ac yn 21 oed, roedd ganddi fywyd hir o'i blaen, gafodd ei dorri'n fyr o ganlyniad i weithredoedd Mitchell.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Jessica ar yr amser anodd hwn.
"Er na fydd y ddedfryd heddiw'n lleddfu eu poen na'u colled, rydw i'n gobeithio y bydd yn rhoi ychydig o gysur wrth iddyn nhw symud ymlaen gyda'u bywydau."