Cleifion 'ddim yn gwybod' am driniaeth UE
- Cyhoeddwyd

Mi allai miloedd o gleifion fod yn disgwyl am fisoedd am lawdriniaeth ar y GIG pan gallasant gael y gwasanaeth iechyd i dalu iddynt gael yr un driniaeth yn gynt ar gyfandir Ewrop.
Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi rhai cleifion i dderbyn ad-daliad o gostau derbyn triniaeth dramor gan y gwasanaeth iechyd.
Ond mae BBC Cymru wedi darganfod mai dim ond 31 sydd wedi gwneud cais i wneud hynny.
Mae rhai yn dweud bod angen gwneud mwy i hysbysu pobl o'u hawliau - mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai pobl siarad gyda'u bwrdd iechyd am fwy o wybodaeth.
'Rhydd i fynd dramor'
Mae dros 16,000 o bobl wedi bod yn aros mwy na naw mis am driniaeth yng Nghymru.
Un opsiwn sydd yn agored iddynt ydi talu am driniaeth breifat yn unrhyw le o fewn y Deyrnas Unedig.
Ond mae gan rai, o dan amodau penodol, yr hawl i gael triniaeth mewn ysbyty cyhoeddus neu breifat o fewn yr UE, gyda'r gwasanaeth iechyd yn ad-dalu faint fyddai wedi cael ei dalu ar y driniaeth gartref.
Dyma ddywedodd David Hughes, pennaeth swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru: "Nawr, os ydych yn dioddef o salwch penodol ac eisiau derbyn eich triniaeth dramor, mae gennych chi hawl i wneud hynny.
"Wrth gwrs ar gyfer rhai triniaethau mwy dwys neu ddrud mi allai'r driniaeth gynnwys aros dros nos ac mi fyddai angen i hynny gael ei awdurdodi o flaen llaw, ac mae'r byrddau iechyd angen sicrhau bod angen clinigol a bod y driniaeth fydd yn cael ei ddarparu yn ddigon da ac yn y blaen...
"Ond heblaw hynny rydych chi'n rhydd i fynd dramor i gael triniaeth, o dan rhai amodau, a derbyn ad-daliad am y driniaeth yno."
Arbed arian
Daeth y gyfraith i rym fis Hydref y llynedd wedi iddo gael cymeradwyaeth gan yr UE rhai blynyddoedd ynghynt.
Dim ond nifer fechan o gleifion sydd wedi dewis gwneud hyn er gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif sy'n gwneud yn profi llwyddiant.
Un o'r rhain oedd Anne Botteril o Gaerdydd aeth i wlad Belg i dderbyn clun newydd.
Dywedodd ei bod wedi trafod mynd dramor gyda "tri meddyg teulu gwahanol, ond doedd yr un wedi clywed am y fenter".
Fe dalodd Ms Botteril £9000 am y driniaeth, oedd yn cynnwys aros yn yr ysbyty am dair noson, gan dderbyn £6,500 yn ôl gan y bwrdd iechyd.
Mi fyddai triniaeth breifat yng Nghymru wedi costio £12,500 iddi hi.
Mae hi'n credu bod angen gwneud mwy fel bod cleifion yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ganddynt.
Canllawiau
Mae canllawiau ynghylch sut i fynd ati i wneud hyn a beth yw'r amodau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan nad yw'r gyfraith dan sylw yn caniatáu cleifion i fynd i "unrhyw le yn Ewrop i gael unrhyw driniaeth neu feddyginiaeth maen nhw ei eisiau gan ddisgwyl ad-daliad gan y GIG".
Ychwanegodd: "Byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am benderfynu ar lefel yr ad-daliad mae pobl yn ei gael wedi ei selio ar beth fyddai cost derbyn y driniaeth gartref.
"Am y rheswm hwn rydym yn annog pobl i siarad gyda'u bwrdd iechyd os ydynt yn ystyried chwilio am driniaeth rhywle arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, hyd yn oed os nad oes angen caniatâd o flaen llaw arnynt i dderbyn y driniaeth."