Gobaith i ganolfannau hamdden

  • Cyhoeddwyd
Canolfan NovaFfynhonnell y llun, Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y cyngor yn ystyried buddsoddi £4.2 miliwn yng Nghanolfan Nova

Gall dyfodol dwy o ganolfannau hamdden gogledd Cymru fod yn fwy diogel pe bai cynghorwyr yn rhoi cymeradwyaeth i gynlluniau ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Canolfan Nova ym Mhrestatyn gau ym mis Chwefror, ar ôl i gyngor Sir Ddinbych roi'r gorau i roi arian i ymddiriedolaeth oedd yn gyfrifol am reoli'r safle.

Nawr mae'r cyngor yn trafod gwario £4.2 miliwn, gan greu caffi newydd ac ystafell ffitrwydd.

Hefydd ddydd Mawrth bydd cynghorwyr Wrecsam yn trafod dyfodol Plas Madoc, a chynllun i drosglwyddo rheolaeth i ymgyrchwyr lleol.

Adnoddau o safon

Byddai cynlluniau ar gyfer Canolfan Nova yn cadw'r pwll nofio 25 metr ac yn gwella'r ystafelloedd newid.

Yn ogystal â chaffi byddai'r datblygiad hefyd yn cynnwys lle chwarae i blant.

Mae yna fwriad hefyd i atgyweirio to'r adeilad a sefydlu tair uned manwerthu ar y prom.

Dywedodd Jamie Groves, pennaeth hamdden Sir Ddinbych: "Rydym am ddatblygu adnoddau o'r safon gorau, a bydd hynny yn ei dro yn annog pobl i wneud ymarfer corff."

Roedd y cyngor yn arfer rhoi arian i ymddiriedolaeth Clwyd Hamdden. Roedd yr ymddiriedolaeth yn gyfrifol am reoli Canolfan Nova, Heulfan y Rhyl a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru.

Ond bu'n rhaid i'r dair ganolfan gau yn gynharach eleni, ar ôl i'r cabinet ddweud na fydda nhw'n rhoi £200,000 ar gyfer 2014/15.

Fe wnaeth Clwyd Hamdden roi'r gorau i fasnachu ym mis Chwefror.

Mae'r Cyngor wedi penderfynu na fydd Heulfan y Rhyl yn ailagor, oherwydd y byddai costau adnewyddu'n rhy ddrud.

Fe wnaed gwaith i'r ganolfan fowls dros yr haf, ac mae'r ganolfan wedi ailagor.

Disgrifiad o’r llun,
Mae ymgyrchwr wedi bod yn ceisio achub Canolfan Hamdden Plas Madoc

Yn y cyfamser mae'r ymgyrchwyr sydd am achub Canolfan Hamdden Plas Madoc yn aros i gael prydles y safle.

Byddant hefyd yn derbyn cymhorthdal o £50,000 gan gyngor Wrecsam.

Cafodd Plas Madoc yn Acrefair ei gau ym mis Ebrill, fel rhan o becyn i geisio arbed arian.

Bydd cynghorwyr Wrecsam yn gwneud penderfyniad ar ddyfodol y ganolfan ddydd Mawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol