BBC Cymru Fyw

Bale yw Chwaraewr y Flwyddyn

Published
image copyrightAP

Mae ymosodwr Real Madrid , Gareth Bale, wedi cael ei ddewis yn Bêl-droediwr y Flwyddyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Hwn yw'r pedwerydd tro iddo dderbyn y wobr.

Fe wnaeth y chwaraewr 25 oed gipio ail wobr hefyd, gan mai ef oedd dewis y cefnogwyr fel chwaraewr y flwyddyn

Roedd yna wobraeon arbennig i'r cyn chwaraewr rhyngwladol Kevin Ratcliffe, ac i Julie Lowe, aelod o glwb pêl-droed merched Abertawe.

L

Straeon perthnasol

  • Bale yng ngharfan Cymru er ei anaf

  • Bale: Ymateb o Gymru a'r byd