Cyngor Penfro: Trafod taliad diswyddo Prif Weithredwr
- Cyhoeddwyd

Mae aelod o'r Pwyllgor Ymchwiliad Disgyblu, cafodd ei sefydlu gan Gyngor Sir Benfro i ymchwilio materion yn ymwneud ag ymddygiad y prif weithredwr, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn disgwyl y bydd pecyn tâl diswyddo Bryn Parry Jones yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y cyngor.
Mae'r Cynghorydd Paul Miller wedi cadarnhau bod aelodau o'r pwyllgor wedi penderfynu dydd Llun i benodi Person Annibynnol Dynodedig i ymchwilio'n bellach yr honiadau ynglŷn ag ymddygiad y prif weithredwr.
Yn ôl y Cynghorydd Miller, cafodd y penderfyniad ei gadarnhau o 7 pleidlais i 6, ac roedd gwrthwynebiad i ymchwiliad pellach gan aelodau o'r grŵp sy'n arwain y cyngor - y Grŵp Annibynnol Plws.
Clywodd aelodau o'r pwyllgor y byddai'r pecyn tâl diswyddo yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn nesaf yr awdurdod.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Dyw'r Pwyllgor Disgyblu ddim wedi cwblhau ei waith, felly ni allwn wneud sylw ar hyn o bryd."
Dywedodd y Cynghorydd Miller wrth BBC Cymru y dylai'r drafodaeth ynglŷn â'r "tâl diswyddo gael ei chynnal yn llygaid y cyhoedd" pan fydd cynghorwyr yn cyfarfod ar 16 Hydref.
Dyw maint posibl unrhyw setliad heb gael ei drafod.
Dywedodd aelod arall o'r Pwyllgor Ymchwilio Disgyblu wrth BBC Cymru ei fod wedi ymddiswyddo fel aelod o'r pwyllgor.
Ar ei flog dywedodd Mike Stoddart, "cafodd gwybodaeth ei gyflwyno yn y cyfarfod ddydd Llun diwethaf gan wneud i mi ddod i'r casgliad na fyddai'n addas i mi barhau ar y pwyllgor".
Opsiynau posibl
Cafodd y Pwyllgor Ymchwiliad Disgyblu ei sefydlu oherwydd pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Parry Jones yn dilyn anghydfod am daliadau ychwanegol i'w gyflog.
Tasg y pwyllgor oedd casglu tystiolaeth am yr honiadau a phenderfynu a ddylid penodi rhywun annibynnol i barhau ag ymchwiliad posib.
Pe bai'r Pwyllgor yn parhau gyda'u penderfyniad i benodi rhywun annibynnol i ymchwilio'n bellach, byddai adroddiad yn cael ei lunio a'i gyflwyno i'r pwyllgor.
Yna fe fydd gan y pwyllgor bum opsiwn:
- dim camau pellach;
- cyfeirio yn ôl i'r person annibynnol er mwyn ymchwiliad pellach;
- argymell datrysiad anffurfiol;
- camau disgyblu;
- diswyddo.
Pe bai'r pwyllgor yn dewis camau disgyblu neu ddiswyddo byddai cyfle i'r prif weithredwr roi tystiolaeth cyn bod unrhyw benderfyniad terfynol.
Mae'r ffrae yn deillio o benderfyniad Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau'r flwyddyn fod y cyngor wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry Jones, ac uwch swyddog arall, ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.
Rhagor o wybodaeth
Methodd ymchwiliad gwreiddiol yr heddlu â dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fyddai'n awgrymu unrhyw drosedd.
Ond yna cyhoeddodd yr heddlu ymchwiliad o'r newydd ar ôl darganfod rhagor o wybodaeth.
Ym mis Gorffennaf dywedodd y cyngor na fydden nhw'n cymryd unrhyw gamau pellach i adennill yr arian a dalwyd i Mr Parry Jones ac i'r uwch swyddog arall dan sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2014
- Cyhoeddwyd19 Medi 2014
- Cyhoeddwyd12 Medi 2014
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014
- Cyhoeddwyd15 Awst 2014
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014