Troseddwr yn targedu geifr

  • Cyhoeddwyd
Geifr gwyllt yn NhreforFfynhonnell y llun, Eric jones
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r geifr yn crwydro yn wyllt yn ardal Trefor

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymchwilio ar ôl i rywun gyda bwa croes saethu a lladd geifr gwyllt yn Nhrefor, Gwynedd.

Mae'r heddlu wedi cymryd samplau DNA o'r bolltau cafodd eu defnyddio i ladd yr anifeiliaid er mwyn ceisio dod o hyd i'r troseddwr.

Cred yr heddlu yw bod y troseddwr yn cuddio gan aros i'r geifr ddod digon agos cyn saethu.

Maen nhw'n poeni beth allai ddigwydd pe bai aelod o'r cyhoedd yn dod o hyd i'r person ar ddamwain.

Dywedodd PC Dewi Evans o Heddlu'r Gogledd bod rhai o'r anifeiliaid gafodd eu saethu wedi byw am rai diwrnodau cyn iddyn nhw farw. Bu'n rhaid i'r lleill gael eu difa.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol