Hwb i ganolfannau hamdden Nofa a Plas Madoc
- Published
Mae dau o gynghorau sir gogledd ddwyrain Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i sicrhau dyfodol canolfannau hamdden lleol.
Fore dydd Mawrth, fe wnaeth cynghorwyr Sir Ddinbych roi sêl bendith i gynllun gwerth £4.2 miliwn i ddatblygu canolfan hamdden Nofa ym Mhrestatyn.
Yn ddiweddarach, daeth cadarnhad fod Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo grant gwerth £50,000 i achub Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Canolfan Hamdden Nofa
Fe gaeodd y Nofa yn wreiddiol ar ôl i'r ymddiriedolwyr, Hamdden Clwyd, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Chwefror eleni.
Roedd yr ymddiriedolaeth yn gyfrifol am reoli Canolfan Nofa, Heulfan y Rhyl a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru.
Ond bu'n rhaid i'r tair canolfan gau yn gynharach eleni, ar ôl i'r cabinet ddweud na fyddan nhw'n rhoi £200,000 ar gyfer 2014/15.
Mae'r Cyngor wedi penderfynu na fydd Heulfan y Rhyl yn ailagor, oherwydd y byddai costau adnewyddu'n rhy ddrud.
Fe wnaed gwaith i'r ganolfan fowls dros yr haf, ac mae'r ganolfan wedi ailagor erbyn hyn.
Nawr mae'r cyngor wedi rhoi sêl bendith i gynllun i greu caffi newydd, lle chwarae i blant ac ystafell ffitrwydd ar safle Canolfan y Nofa.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cadw'r pwll nofio 25 metr a gwella'r ystafelloedd newid.
Mae yna fwriad hefyd i atgyweirio to'r adeilad a sefydlu tair uned manwerthu ar y prom.
Plas Madoc
Yn ddiweddarach dydd Mercher, fe bleidleisiodd cynghorwyr Wrecsam o blaid cymeradwyo grant o £50,000 i Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash, sydd eisiau cynnal Canolfan Hamdden Plas Madoc.
Fe gaeodd y ganolfan yn Wrecsam yn gynharach eleni o ganlyniad i doriadau'r cyngor.
Mae'r awdurdod hefyd wedi cytuno ymestyn y cyfnod sydd gan yr ymddiriedolaeth i ailagor y ganolfan, gan olygu bod ganddyn nhw tan fis Tachwedd i wneud hynny nawr.
Cafodd cynnig i newid y grant i £100,000 dros ddwy flynedd ei wrthod.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Hydref 2014
- Published
- 27 Ebrill 2014
- Published
- 27 Mai 2014