Gwadu cyhuddiad o fygwth dwy ddynes o Nigeria
- Cyhoeddwyd

Mae dynes sy'n wynebu cyhuddiad o fasnachu menywod o Nigeria fel gweithwyr rhyw yn ne Cymru wedi gwadu iddi fygwth na churo'r ddwy fenyw.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth Lizzy Idahosa, 24, wadu bygwth y ddwy oherwydd nad oeddan nhw wedi talu arian oedd yn ddyledus.
Mae'r diffynnydd yn honni iddi anfon arian i Nigeria ar ran y ddwy ddynes.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Ms Idahosa wedi gorfodi'r ddwy i weithio fel puteiniaid unwaith iddyn nhw gyrraedd Prydain.
Oherwydd rhesymau cyfreithiol does dim modd cyhoeddi enwau'r ddwy.
Arian
Dywedodd Ms Idahosa wrth y llys nad oedd hi'n gwybod fod eu harian wedi'i ennill drwy weithio fel puteiniaid.
Ychwanegodd ei bod yn credu, o bosib, fod yr arian wedi dod oddi wrth gariadon y ddwy.
Clywodd y llys fod Ms Idahosa yn gariad i'w chyd ddiffynnydd, Jackson Omoruyi, 41, ond eu bod yn byw mewn ardaloedd gwahanol o'r DU.
Dywedodd mai ef oedd tad ei phlentyn, a bod y ddau yn disgwyl plentyn arall ar hyn o bryd.
Mae Mr Omoruyi hefyd yn wynebu un cyhuddiad yn ymwneud â phuteindra.
Defodau
Dywedodd Ms Idahosa wrth y rheithgor nad oedd hi wedi dweud wrth Mr Omoruyi ei bod hi wedi gweithio fel putain am fod arni gywilydd a'i bod yn poeni y byddai o'n ei gadael.
Clwydodd y llys mai'r tro cyntaf iddo wybod am ei chefndir oedd pan gafodd hi ei harestio.
Mae hi'n honni ei bod hi wedi benthyg arian i'w chariad, gan dalu'r arian i'w gyfrif banc.
Wrth gael ei chroesholi dywedodd nad oedd hi yn gwybod dim am hanes y ddwy fenyw o Nigeria.
Ychwanegodd nad oedd ganddi unrhyw syniad fod y ddwy wedi cymryd rhan mewn defodau cyfrinachol yn Nigeria.
Fe wrthododd awgrym yr erlyniad fod marciau ar gyrff y ddwy fenyw yn deillio o'r seremonïau hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2014
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2014