Y Gyfnewidfa Lo ar restr 'dan fygythiad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi cael ei chynnwys ar restr deg uchaf o adeiladau Fictorianaidd sydd dan fygythiad ym Mhrydain.
Y Gymdeithas Fictorianaidd sydd wedi llunio'r rhestr ac maen nhw'n galw ar Gyngor Caerdydd i gymryd camau i geisio sicrhau dyfodol yr adeilad.
Hefyd ar y rhestr mae adeiladau hen lofa Navigation yng Nghrymlyn, Sir Caerffili.
Cafodd y Gyfnewidfa Lo ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr fis Medi gan fod yr adeilad wedi dirywio ers peth amser.
Yn ganolbwynt i'r diwydiant glo yn ne Cymru cafodd y Gyfnewidfa Lo ei hadeiladu rhwng 1883 a 1886.
Yn y gorffennol, roedd pris y glo fyddai'n cael ei allforio i bedwar ban byd yn cael ei benderfynu yn y gyfnewidfa, ac yno hefyd yn 1901 cafodd y siec gynta' a £1 miliwn ei lofnodi.
Yn ôl arbenigwyr mae angen cynnal gwaith cynnal a chadw ar frys.
Mae adeiladau glofa Navigation yn Crymlyn yn dyddio nôl i 1907. Yn ôl y Gymdeithas Fictorianaidd mae'r safle o bwysigrwydd cenedlaethol gan ei fod yn adeilad oedd o flaen ei amser ar y pryd.
"Fe allai cynlluniau i droi'r safle yn ganolfan i'r gymuned leol fethu heb ymdrechion i fynd i'r afael a phroblemau llygredd a'r angen i wneud gwaith cynnal a chwad i'r ffordd sy'n arwain i'r pwll," meddai llefarydd.
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud y byddai yn costio miliynau o bunnoedd i adfer y Gyfnewidfa Lo.
Ond yn ôl y Gymdeithas Fictorianaidd dydy'r cyngor heb gomisiynu adroddiad cadwraeth fyddai'n profi bod yr adeilad yn anniogel.
Maen nhw hefyd yn honni bod cynlluniau gan y cyngor i ddymchwel yr adeilad, gan ddweud fod ymgyrchwyr lleol wedi cael gafael ar bapurau cabinet sy'n profi hyn.
Mae BBC Cymru Fyw wedi cysylltu gyda'r cyngor i gael ymateb ac fe wnaethon nhw gyfeirio at ddatganiad gafodd ei gyhoeddi'n flaenorol oedd yn dweud: "Yn anffodus, realiti'r sefyllfa yw bod gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad yn fuddsoddiad sylweddol.
"Y gred yw y bydda hi'n costio oddeutu £5m i wneud y safle'n ddiogel cyn bod gwaith adfer yn bosib."
Straeon perthnasol
- 23 Medi 2014
- 3 Medi 2014
- 24 Mehefin 2013