Erin: Cymraes yn ninas Batman

  • Cyhoeddwyd
Erin Richards yn y 'premiere' i gyfres Gotham
Disgrifiad o’r llun,
Erin Richards yn y 'premiere' i gyfres Gotham

Mae "Gotham", y gyfres ddrama deledu Americanaidd ddiweddara', eisoes wedi taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd dros fôr yr Iwerydd. Mae Erin Richards o Benarth, sy'n chwarae un o'r prif rannau, hefyd wedi gwneud argraff fawr.

O Hydref 13 ymlaen bydd y gyfres yn cael ei dangos yn y DU am y tro cyntaf ar Channel 5. Cafodd Nia Medi air gydag Erin ar gyfer Y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru:

Sut mae merch o Benarth wedi llwyddo i gael rhan yn un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd America? Beth yw'r gyfrinach?

"Gwaith caled! Dyw e ddim wedi dod yn hawdd. Rwy' wedi gorfod gweithio am flynyddoedd i ddatblygu fy mhroffil fel actores. Mi 'nes i hefyd gymryd risg drwy fynd allan i LA. Do'n i ddim yn nabod unrhyw un yma. Ond dries i fy lwc.

"Roedd yr auditions ar gyfer Gotham yn broses neis. Ges i lot o lwc. Ddigwyddodd e'n mis Ionawr. Y pilot season mae'r diwydiant yn ei alw fe. Mae'n gyfle i gynhyrchwyr drio syniadau newydd ar gyfer cyfresi felly mae 'na lot o gyfleoedd i actorion geisio am ran mewn pennod one-off yn y gobaith y bydd 'na gyfres yn cael ei chomisiynu.

"Ges i ddwy rownd o auditions a wedyn ges i gyfle. Weithie mae pethe yn gweithio mas, weithio dy'n nhw ddim!"

Ffynhonnell y llun, Fox
Disgrifiad o’r llun,
Erin yn chwarae rhan Barbara Kean yn Gotham

Sut brofiad ydi ffilmio yn Efrog Newydd?

"O mae'n gyffrous. Mae'n le gyda digon i'w wneud. Rwy'n ffilmio tua teirgwaith yr wythnos felly mae amser 'da fi i ddod i nabod y ddinas. Ma' digon i'w wneud yma."

Beth yw cefndir Gotham?

"Fel mae'r teitl yn awgrymu mae hi'n stori am ddinas Gotham. Be' sy'n wahanol yw bod ni'n mynd yn ôl i ddweud yr hanes cyn i Batman ddechre delio gyda thor cyfraith. Ond ry'n ni yn dod i wybod mwy am gefndir nifer o gymeriadau amlwg ry' ni'n eu cysylltu 'da Batman - y villains fel Penguin a Catwoman a chyfaill Batman, Commissioner Gordon.

Ffynhonnell y llun, Fox
Disgrifiad o’r llun,
Jim Gordon (Ben McKenzie) yn rhoi pryd o dafod i The Penguin (Robin Lord Taylor) yn Gotham

"Rwy'n chwarae rhan Barbara Kean, cariad Jim Gordon. Mae e'n dditectif ifanc sy'n ceisio darganfod pwy sydd wedi llofruddio rhieni Bruce Wayne (y dyn busnes ry'n ni yn ei nabod yn well fel Batman)."

Sut gymeriad yw Barbara Keane?

"Mae hi'n fenyw gre' sy'n byw mewn apartment hyfryd. Mae hi'n dod o gefndir ariannog felly dyw hi ddim yn ddibynnol ar gyflog ei chariad. Maen nhw'n caru ei gilydd, ond fel mae'r gyfres yn datblygu mae hi'n dod yn amlwg bod gan Barbara gyfrinachau nad yw hi am eu rhannu 'da Jim. Felly mae hyn yn creu lot o densiynau a phroblemau"

Sut ymateb mae'r gyfres wedi ei gael yn America hyd yma?

"Mae'r ymateb yn dda iawn - mae na obsesiwn yma efo ratings. Hyd yma mae'r ratings wedi bod yn dda iawn. Mae 'na lot o ganmoliaeth wedi bod ar y rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter hefyd, felly, mae'n galonogol iawn."

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gotham wedi cael adolygiadau ffafriol yn America

Gyda Game of Thrones, Breaking Bad, Prison Break a nawr Gotham, mae cyfresi dramâu teledu i'w gweld yn fwy poblogaidd na ffilmiau ar hyn o bryd... Yw'r llwyddiant yma yn debyg o newid dy fywyd?

"Gawn ni weld! Mae safon y 'sgwennu a'r actio ar gyfer y teledu yn uchel iawn erbyn hyn. Mae rhai o'r cyfresi yn groundbreaking. Mae 'na lot o dechnegau sydd heb gael eu gweld o'r blaen. Mae 'na rannau gwych i fenywod. Mae menywod yn cael eu gweld fel cymeriadau cry' yn hytrach na fel gwraig neu gariad i un o'r dynion. Rwy'n hapus iawn i weithio ym myd teledu ar hyn o bryd."

Rwyt ti wedi cael sylw mawr ar ôl cael y rhan yma. Mae e'n siwr o fod yn newid byd?

"Ydi i raddau. Mae lot o bobl yn credu fy mod i'n byw bywyd cwbl wahanol nawr ar ôl i lun ohona i ymddangos yn teithio ar private jet. Dyw hynny ddim yn digwydd bob dydd, er bod o'n brofiad neis!! Rwy'n mwynhau cyfleoedd fel 'na pan mae nhw'n codi. Ond rwy'n gorfod gweithio'n galed fel pawb arall.

"Mae 'na waith hyrwyddo'r gyfres i'w wneud hefyd, felly bydda i ar y radio yn aml ben bore yn g'neud cyfweliadau. Dyw popeth ddim mor glam â mae e'n swnio!"

Gotham, 21:00 Nos Lun Hydref 13, Channel 5

Ffynhonnell y llun, ARALL
Disgrifiad o’r llun,
Erin (trydydd o'r dde) gyda rhai o sêr Gotham