Cwmni 'The Call Centre' yn nwylo gweinyddwyr
- Published
Mae'r cwmni oedd yn rheoli'r ganolfan alwadau ar raglen The Call Centre gafodd ei dangos ar BBC Three, wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr.
Fe wnaeth Deloitte gadarnhau eu bod wedi eu hapwyntio fel gweinyddwyr i gwmni Save Britain Money Ltd.
Nev Wilshire yw pennaeth Save Britan Money, cwmni sy'n cyflogi 950 o staff gyda 500 arall yn cael eu cyflogi ledled y DU.
Yn Abertawe mae pencadlys y cwmni, ond mae swyddfa fawr yng Nghaerdydd hefyd.
Mae Save Britain Money yn rhiant-gwmni i sawl cwmni arall gan gynnwys Nationwide Energy Services, We Claim U Gain a FuelSwitch.com.
Mae'r cwmni wedi ei ddangos ar raglen ddogfen BBC Three, The Call Centre, oedd yn dilyn Mr Wilshere a staff y ganolfan alwadau yn Abertawe.