Dim newid i ddedfryd Michael Pearce am ladd babi
- Cyhoeddwyd

Nid oedd dedfryd o naw mlynedd dan glo i lofrudd Alfie Sullock yn "annigonol" yn ôl barnwyr yn y Llys Apêl.
Cafodd Michael Pearce, 33, o Nelson yn Sir Caerffili, ei garcharu ym mis Gorffennaf am ddynladdiad Alfie Sullock.
Cafodd y ddedfryd ei chyfeirio at y Llys Apêl ar ôl i Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol dderbyn tua 10 cwyn.
Cafwyd Pearce yn ddieuog o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd y babi ei daro gydag esgid a photel blastig.
Clywodd y llys bod mam y babi, Donna Sullock o Gaerdydd, wedi ei adael gyda Pearce i fwynhau ei noson allan gyntaf ers iddi roi genedigaeth y flwyddyn gynt.
Roedd y ddau wedi dod yn ffrindiau pan roedd Ms Sullock yn feichiog, a dechreuodd y ddau berthynas yn ddiweddarach.
Honnodd Pearce nad oedd wedi anafu Alfie, a'i fod wedi ceisio'i adfywio.
Roedd wedi gwadu llofruddio a dynladdiad ond cafwyd yn euog ar ôl 36 awr o drafod.
Yn y Llys Apêl ddydd Mercher, penderfynodd Syr Brian Leveson, Mrs Ustus Elisabeth Laing ac Mr Ustus William Davis, bod y ddedfryd yn briodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2014
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2014