Cynnydd yn nifer y parlyrau tatŵ yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y siopau tatŵ ledled Cymru yn ôl ffigyrau newydd.
Erbyn hyn mae yna 330 o barlyrau trwyddedig yng Nghymru - sef 1 ar gyfer pob 10,000 o bobl.
Yn ôl ffigyrau gafodd eu casglu gan BBC Cymru mae nifer y parlyrau wedi cynyddu yn sylweddol dros gyfnod o 20 mlynedd.
Mae'r ffigyrau yn cyd-fynd ag ystadegau tebyg ar gyfer gwledydd Prydain.
Stryd Fawr yn newid
Fe wnaeth y cwmni casglu data, Experian, ganfod fod nifer y parlyrau ledled y DU wedi cynyddu 173% yn y 10 mlynedd diwethaf.
Yn ôl papur newydd y Guardian mae ffigyrau Experian yn dangos fod y Stryd Fawr yn newid, gyda chynnydd yn nifer y busnesau fel caffis, clybiau ffitrwydd a pharlyrau tatŵ.
Yn ôl ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru dim ond tri pharlwr oedd yng Nghaerdydd yn 1994, o'i gymharu â 48 heddiw.
Ond mae'n bosib fod y cynnydd yn nifer y parlyrau tatŵ wedi cyrraedd penllanw.
Roedd yna hyd yn oed yn fwy o'r canolfannau yn y ddinas y llynedd, pan oedd 56.
Mae darlun tebyg yn 18 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gyda llai o barlyrau o'i gymharu â 12 mis yn ôl.
Arferiad i'r ifanc?
Yn ôl gwaith ymchwil yn 2012 roedd un ym mhob pump o oedolion gwledydd Prydain a thatŵ.
Tra bod 45% yn cael eu tatŵ cyntaf rhwng 18-25 oed, roedd hanner o'r rhai a holwyd dros 40 oed.
Mewn ardaloedd fel Conwy, Penfro, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg doedd yna ddim parlyrau 20 mlynedd yn ôl, erbyn hyn mae pob un o'r ardaloedd gyda rhwng 12 a 15.
Dywed Sion Smith, golygydd cylchgrawn Skin Deep, fod yr arferiad wedi dod yn hynod boblogaidd.
"Ond unwaith mae rhywun yn mynd i'r ardaloedd mwy gwledig mae'r nifer yn gostwng."
Yr ardaloedd sydd a'r nifer uchaf o barlyrau yw Caerdydd (48), Abertawe (20) a Rhondda Cynon Taf (28).
Yn ôl y disgwyl, mae yna lai yn yr ardaloedd gwledig, Sir Fynwy (6), Ceredigion (5) a Sir Fôn (2).
Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu mai nifer gymharol isel o barlyrau cofrestredig sy'n cael eu herlyn.
Dau achos sydd wedi eu cofnodi yn erbyn parlyrau cofrestredig dros gyfnod o 20 mlynedd, gyda chwech wedi cael rhybudd. Y ddirwy fwyaf oedd £400 o ganlyniad i roi tatŵ i berson dan oed.
Yn yr un cyfnod bu 7 erlyniad yn erbyn siopau tatŵ oedd heb eu cofrestru. Cafodd un o'r rhain ddirwy a gorchymyn i dalu costau o £2,500.
Dim ond un parlwr cofrestredig sydd wedi colli ei drwydded. Digwyddodd hynny yn Sir Fôn.