Dyn yn honni iddo gael ei dreisio gan berchennog cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o John Allen yn y llysFfynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,
Mae John Allen yn gwadu 40 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae dyn yn ei 50au wedi dweud iddo gael ei dresio gan berchennog cartref gofal tra'n cymryd rhan mewn gemau ar Foel Famau ar Fryniau Clwyd.

Dywedodd y dyn ei fod yn 11 oed pan gafodd ei dreisio gan John Allen.

Roedd o'n dweud fod y plant yn cymryd rhan mewn gemau oedd yn ymdebygu i ymarferion milwrol, gyda'r plant yn cael eu cymryd o'r cartref rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Dywedodd ei fod o yn aelod o dîm John Allen, a'i fod yn cofio'r dyn yn ei orfodi i'r llawr drwy ddweud fod rhywun yn dod.

Yna, meddai, cafodd ei dreisio.

Bu rheithgor yn edrych ar fideo o'r dyn yn rhoi tystiolaeth i'r heddlu.

Yn y cyfweliad dywedodd y dyn nad oedd wedi sôn am y treisio pan yn trafod y digwyddiad yn y gorffennol.

Bryn Alyn

Dywedodd nad oedd chwaith wedi dweud wrth ei wraig nac wedi ysgrifennu am y digwyddiad.

Eglurodd nad oedd wedi anghofio ond ei fod eisiau osgoi sôn am y peth yn gyhoeddus.

Dywedodd y tyst ei fod yn un o breswylwyr cartref Bryn Alyn rhwng 1968 a 1973.

Roedd nifer o'r bechgyn yno, meddai, oherwydd eu bod wedi bod mewn trwbl, yn gyffredinol a gerbron y llysoedd.

Ond dywedodd ei fod ef wedi ei roi yn y cartref er mwyn ei ddiogelwch ei hun.

Clywodd y rheithgor y byddai Mr Allen, ac un o'r bechgyn hŷn, yn dod i'w ystafell gyda'r nos a'i gam-drin.

Gorsaf heddlu

Dywedodd y dyn y byddai'n smalio ei fod yn cysgu, ac roedd e'n credu mai John Allen oedd yn annog y bachgen arall i weithredu.

Yn ôl ei dystiolaeth roedd yn aml yn rhedeg i ffwrdd, ac roedd wedi dweud wrth yr heddlu.

Ond, meddai, nid oedden nhw'n ei gredu gan eu bod yn ei ystyried yn fachgen drwg.

"Doedd neb yn credu'r hyn yr oeddwn yn ei ddweud."

Byddai'r heddlu, meddai, yn ffonio'r cartref a John Allen - a byddai ef wedyn yn dod i'r orsaf heddlu i'w nôl.

Dywedodd fod y cam-drin gan John Allen yn digwydd yn aml.

"Roeddwn yn 11 oed ac roeddwn ofn," meddai.

Pwerus

Roedd yn ystyried John Allen fel dau berson, John y nos a John y dydd.

Roedd Allen, meddai yn berson carismataidd, roedd yn gallu bod yn garedig ond roedd o hefyd yn bwerus.

"Doeddwn i ddim am fod ar yr ochr anghywir iddo."

Dywedodd y dyn nad oedd Mr Allen wedi defnyddio trais yn ei erbyn, ond dywedodd ei fod wedi gweld Allen yn ymosod yn gas ar fachgen, a bod hynny wedi codi braw arno.

"Mae'n anodd egluro'r rheolaeth oedd ganddo," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn ystyried y diffynnydd i fod yn bedoffeil.

Mae Mr Allen, 73 oed, sy'n byw yn Ipswich, yn gwadu 40 cyhuddiad o gam-drin rhywiol ac mae'r achos yn parhau.