Gweinidog yn cyhoeddi manylion toriadau cynghorau
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi faint o arian y bydd pob cyngor yn ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mi fyddan nhw'n derbyn £146m yn llai, hynny yw toriad o 3.4%.
Wrth gyhoeddi'r setliad, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews: "Mae'r setliad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw'n her ond mae hyn yn deillio o'r gostyngiad cyllidebol ar raddfa fawr sy'n cael ei orfodi gan Lywodraeth y DU.
"Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 tua 10% yn is mewn termau real o'i chymharu â 2010-11...
"I leihau'r effaith ar unrhyw gyngor y flwyddyn nesaf, rwyf yn sefydlu mecanwaith fel na fydd unrhyw awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 4.5% o flwyddyn i flwyddyn."
'Anodd iawn'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders AC: "Mae hwn yn setliad anodd iawn.
" ... fe fydd yn golygu penderfyniadau anodd a chraffu manwl ar wariant.
"Bydd effeithlonrwydd yn flaenoriaeth, bydd angen cael gwared ar wario gwastraffus ... ac angen darparu gwasanaethau mewn ffyrdd eraill."
'Agenda creulon'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Alun Ffred Jones AC: "Mae'r setliad yn ergyd greulon i'n gwasanaethau rheng flaen a bydd yn effeithio ar bob aelwyd a phob cymuned.
"Agenda greulon Llywodraeth Prydain sy'n gyrru'r toriadau a Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd sy'n eu cyflwyno.
"Mae hwn yn ymosodiad ar ein cymunedau ni ar ansawdd bywyd ein pobl ni, ac mae Llywodraeth Cymru'n hwyluso hyn ..."
'Angen arweiniad'
Dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Dyw cynghorau ddim wedi ofni penderfyniadau anodd.
"Maen nhw wedi gorfod cyflwyno mesurau arbed costau er gwaetha' gwrthwynebiad y cyhoedd.
"... yn sicr, mae angen i wleidyddion ddangos arweiniad, cefnogi penderfyniadau lleol anodd a gosod blaenoriaethau realistig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan."
Y fformiwla
Nid yw'r llywodraeth yn penderfynu maint cyllideb pob cyngor ar fympwy - maen nhw'n defnyddio fformiwla sy'n ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- Lefelau tlodi cymharol;
- Nifer plant mewn ysgolion;
- Dwysedd poblogaeth.
Cliciwch yma am esboniad Dan Davies o Uned Wleidyddol BBC Cymru o sut mae'r fformiwla ar gyfer rhannu'r arian yn gweithio.
Dyma fanylion pob cyngor, gan gynnwys setliad eleni ac un y flwyddyn ariannol nesa' (2015-16).
Mae'r arian mae'r cynghorau'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn cyfateb i tua 80% o'u holl incwm.
Mi fydd y manylion isod yn cael eu diweddaru o dro i dro yn ystod y dydd ac mae'r ffigyrau i gyd wedi eu talgrynnu i'r miliwn agosaf.
Cyngor Sir Abertawe
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £318m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £308m
Newid (£): -£10m
Newid (%): -3.4%
Cyngor Sir Blaenau Gwent
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £113m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £110m
Newid (£): -£3m
Newid (%): -2.8%
Cyngor Bro Morgannwg
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £158m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £153m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -3.4%
Cyngor Sir Caerdydd
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £436m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £424m
Newid (£): -£12m
Newid (%): -2.9%
Cyngor Sir Caerffili
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £273m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £263m
Newid (£): -£10m
Newid (%): -3.4%
Ymateb
Dywedodd arweinydd y cyngor Keith Reynolds: "Rydym yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd oherwydd y gostyngiad yn y setliad gan lywodraeth y DU a'r pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd.
"Er hynny, mi fydd cyhoeddiad heddiw'n golygu y byddwn ni'n cael ein gorfodi i ddarganfod arbedion o tua £10 miliwn y flwyddyn nesaf a rhyw £30 miliwn dros dair blynedd."
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyllideb ar gyfer2014-15: £261m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £252m
Newid (£): -£9m
Newid (%): -3.3%
Cyngor Sir Casnewydd
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £215m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £209m
Newid (£): -£6m
Newid (%): -2.6%
Ymateb
Dywedodd llefarydd: "Rydym eisoes wedi gwneud arbedion ariannol sylweddol ... gan gynnwys darganfod ffyrdd creadigol o ddarparu gwasanaethau ac, mewn rhai achosion, roi'r gorau i rai gwasanaethau rydym wedi eu darparu yn draddodiadol ond nad ydym yn gallu eu fforddio bellach.
"Mae'r sefyllfa yma'n gwaethygu a'r unig beth allai olygu ydi y bydd hyd yn oed fwy o benderfyniadau anodd i'w gwneud fydd yn cael effaith ar wasanaethau craidd."
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £210m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £205m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -2.4%
Ymateb
Bydd gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gynilo £20m yn hytrach na'r £23m oedd i'w ddisgwyl. Dywedodd y prif weithredwr Steve Phillips na fyddai'r sefyllfa'n hawdd ond "y gallai fod yn dipyn gwaeth".
Cyngor Sir Ceredigion
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £104m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £99m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -4.5%
Cyngor Sir Conwy
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £158m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £151m
Newid (£): -£7m
Newid (%): -4.3%
Cyngor Sir Ddinbych
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £145m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £140m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -3.7%
Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £193m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £187m
Newid (£): -£6m
Newid (%): -3.4%
Ymateb
Ymatedd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, oedd: "Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i lywodraeth leol yng Nghymru, ac mae ein hofnau gwaethaf wedi eu cadarnhau.
"Roedden ni'n gwybod y byddai'n rhaid gwneud dewisiadau mawr, anodd. Rwan mi rydan ni'n gwybod pa mor ddifrifol yw'r toriadau sydd ar y gweill.
"Ers pedair blynedd, rydan ni eisoes wedi arbed £33m drwy leihau costau rheoli a gweithredu, ac fe fyddwn ni'n parhau i anelu at effeithlonrwydd yn y meysydd hynny.
"Bydd y gwasanaethau dan sylw'n cynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, a chasglu sbwriel."
Cyngor Gwynedd
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £175m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £168m
Newid (£): -£7m
Newid (%): -4%
Cyngor Merthyr Tudful
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £92m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £89m
Newid (£): -£3m
Newid (%): -2.6%
Cyngor Sir Fynwy
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £98m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £94m
Newid (£): -£4m
Newid (%): -4.3%
Ymateb
Dywedodd Peter Fox, arweinydd y cyngor: "Mae'r cyhoeddiad yn ergyd enfawr.
"Mae'r toriadau'n golygu y bydd Sir Fynwy'n derbyn y gyllideb leiaf y pen allan o'r holl gynghorau sir. Dwi ddim yn deall pam y dylai trigolion Sir Fynwy wynebu cryn anfantais. Mae ein cymdogion yn derbyn rhwng £380 a £560 yn fwy y pen. Mae hyn mor annheg."
Cyngor Sir Penfro
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £167m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £160m
Newid (£): -£7m
Newid (%): -4.2%
Ymateb
Dywedodd arweinydd y cyngor Jamie Adams: "Ein hymateb cyntaf? Un gair - anobaith. Roedden ni'n disgwyl toriad mawr i'r setliad ac rydym wedi cynllunio yn unol â hynny.
"Mae'n anochel y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu heffeithio."
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £195m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £189m
Newid (£): -£6m
Newid (%): -3.4%
Cyngor Powys
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £182m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £174m
Newid (£): -£8m
Newid (%): 4.4%
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £368m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £354m
Newid (£): -£14m
Newid (%): -3.7%
Cyngor Torfaen
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £136m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £131m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -3.7%
Cyngor Wrecsam
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £175m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £170m
Newid (£): -£5m
Newid (%): -2.9%
Ymateb
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: "Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu adnoddau iechyd ar draul gwasanaethau llywodraeth leol. Mae hynny wedi golygu setliad gwael arall ac wedi rhoi hyd yn oed fwy o bwysau ar wasanaethau lleol.
"Mae'r cyngor yn newid ein gwasanaethau wrth barhau i flaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed."
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyllideb ar gyfer 2014-15: £97m
Cyllideb ar gyfer 2015-16: £93m
Newid (£): -£4m
Newid (%): -3.9%
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2014