Toriadau'r cynghorau: y fformiwla a'r ffactorau

Arian

Ydy cynghorau sir Ceredigion a Phowys wedi 'neud rhywbeth i ddiflasu Llywodraeth Cymru?

Am yr ail flwyddyn yn olynol nhw fydd yn diodde'r toriadau mwyaf.

Ond dyw'r llywodraeth ddim yn pigo arnyn nhw - mae'r ddau'n dioddef o ganlyniad i'r fformiwla sy'n gosod y setliad ariannol.

Yn achos Ceredigion, i raddau, mae'r gostyngiad yn deillio o lwyddiant economaidd y sir.

Mae nifer y bobl ddifreintiedig ymhob ardal yn ffactor sy'n cael ei ystyried gan y fformiwla. Gan fod lefelau amddifadedd wedi gostwng yng Ngheredigion, gostwng hefyd fydd yr arian mae'r cyngor yn ei dderbyn o'r llywodraeth.

Demograffeg

Mae demograffeg yn dylanwadu ar y fformiwla hefyd. Os oes mwy o blant neu bobl oedrannus mewn ardal, dau grŵp sy'n defnyddio llawer o wasanaethau cyhoeddus, gallwch ddisgwyl y bydd mwy o arian yn llifo i'r ardal honno.

Fe fydd setliad Castell-nedd Port Talbot yn cwympo 2.4%, y gostyngiad isaf o'r 22 awdurdodau, achos bod cymaint o blant ysgol yno.

Ar ôl ceisio gwarchod llywodraeth leol rhag y toriadau gwaethaf mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi penderfynu bod rhaid blaenoriaethu'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae hynny'n golygu llai o arian i wario ar y gwasanaethau mae cynghorau yn eu darparu.

Yn ogystal mae'r llywodraeth wedi gorchymyn awdurdodau lleol i warchod arian ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a chyllideb ysgolion.

Statudol

Dyna'r ddau wasanaeth statudol mawr, yr hyn mae rhaid iddyn nhw ei 'neud.

Beth fydd tynged yr hyn sydd ddim rhaid iddyn nhw ei 'neud, gwasanaethau fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd?

Erbyn hyn mae cynghorau wedi rhybuddio y bydd rhaid i rai gwasanaethau ddod i ben. Maen nhw hefyd wedi apelio am fwy o hyblygrwydd gan y llywodraeth, hynny yw rhyddid i wario llai ar addysg er mwyn arbed gwasanaethau arall.

Nod y fformiwla yw sicrhau nad ydy gormod o'r baich yn cwympo ar gymunedau gyda'r anghenion mwyaf ond fe fydd rhai gwasanaethau yn dioddef yn waeth na'r lleill.