Uno cynghorau: Caerdydd yn trafod â'r Fro

Graphic Image copyright BsWei
Image caption Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod uno ddwywaith, gan ofni 'cael eu llyncu'

Ddydd Iau mae arweinwyr Cyngor Caerdydd yn trafod a ydyn nhw am fentro uno'n wirfoddol â Chyngor Bro Morgannwg.

Mae gweinidogion am i gynghorau Cymru leihau o 22 i 10, 11 neu 12, gan ddweud y bydd "yn digwydd yn wirfoddol, neu fel arall".

Byddai Cyngor Caerdydd-Bro Morgannwg yn gyfrifol am boblogaeth fwy na Bryste neu Lerpwl.

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews sy'n gyfrifol am weithredu argymhellion Comisiwn Williams - a chyhoeddi'r cynghorau unedig cyntaf ym mis Ebrill 2018.

Mae'r ddau gyngor wedi bod yn cydweithio ar rai prosiectau ond mae arweinwyr Cyngor Caerdydd yn cyfaddef bod uno'n llwyr yn "gynnig cwbl wahanol".

Gwrthod ddwywaith

Eisoes mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod uno ddwywaith, gan ofni "cael eu llyncu" gan gyngor mwyaf Cymru.

Mae Bro Morgannwg yn credu y gall barhau i weithio'n unigol ac ystyried uno gyda chyngor llai - Pen-y-bont, efallai - os oes rhaid uno.

Petai'r ddau gyngor yn uno'n wirfoddol, byddai hyn ddwy flynedd cyn i Lywodraeth Cymru orfodi uno.

Mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn wynebu bylchau mawr yn eu cyllidebau - hyd at £124m yn y brifddinas a hyd at £32m yn y Fro erbyn 2017-18.

'Cydweithio'n fwy effeithiol'

Yn ei adroddiad mae Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Paul Orders, yn dweud y gallai'r awdurdod gynnig parhau i weithredu'n unigol gan y byddai'n parhau i fod yn fwy nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru.

Ond mae'n dweud fod gan Caerdydd a Bro Morgannwg "y cyfle i gydweithio'n fwy effeithiol ar gynllunio, teithio, datblygiad economaidd a'r amgylchedd".

Ddydd Iau fe fydd gofyn i'r cabinet gymeradwyo "trafodaethau" am fynegi diddordeb yn y posibilrwydd o uno â Bro Morgannwg.

Fe fydd y cyngor llawn yn trafod y mater ddiwedd Tachwedd.

Gwynedd yn trafod

Yn y cyfamser, fe fydd cyngor llawn Gwynedd yn trafod uno posib â Chyngor Môn.

Mae Ynys Môn eisoes wedi gwrthod y syniad.

Mae'r pwnc ar frig agenda cyfarfod y cyngor ddydd Iau.

Yn ei adroddiad fe ddywedodd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams: "Barn gychwynnol y cyngor yw y dylid datgan yn eglur mai prif gyfrifoldeb y cyngor hwn yw gwarchod buddiannau trigolion Gwynedd a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer.

"Oherwydd hyn ac o dderbyn realiti'r newid anorfod sydd am ddod, y peth cyfrifol i'w wneud yw peidio â chau'r drws ar unrhyw bosibilrwydd allai arwain at arbedion costau rheolaethol, canolog neu swyddfa gefn a fyddai, yn ei dro, yn medru lleihau maint y toriadau y bydd yn rhaid i unrhyw gyngor ei wneud dros y blynyddoedd nesaf."

Straeon perthnasol