Dynes yn marw wedi i gar gwympo arni yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bu farw Jill Hutchinson-Grigg, 54, mewn damwain tu allan i'w chartref wrth i'w char gwympo ar ei phen.
Roedd y ddynes yn bagio ei char o'i dreif pan darodd wal yn ddamweiniol.
Achosodd hynny i'r car lanio ar y wal ac wrth iddi gamu allan o'r cerbyd, fe gwympodd arni.
Dyfarnodd rheithfarn Abertawe ei marwolaeth fel un ddamweiniol.
Clywodd yr ymchwiliad fod corff y ddynes gael ei dal i'r llawr dan bwysau'r car Daewoo Kalos.
Daeth cymdogion i gynorthwyo'r ddynes wedi iddynt glywed ei sgrechiadau.
Bu'r ddynes farw yn yr ysbyty wythnos yn ddiweddarach.
Dywedodd Colin Phillips, crwner Abertawe: "Mae'n ddamwain trist ac annisgwyl.
"Roedd y cerbyd wedi dod i stop rhwng waliau uchel a isel y gerddi ac wrth iddi geisio gadael y cerbyd, fe symudodd y car a'i dal yn gaeth."