Pennaeth PFA yn cefnogi hawl Ched Evans i chwarae eto
- Cyhoeddwyd

Dylai ymosodwr Cymru Ched Evans gael yr hawl i chwarae pêl-droed eto unwaith iddo gael ei ryddhau o'r carchar, yn ôl pennaeth Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor.
Cafodd Evans, 25, ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill 2012 am dreisio, ond mae disgwyl iddo gael ei ryddhau yn ddiweddarach yn y mis.
Mae dros 90,000 wedi arwyddo deiseb yn galw ar ei gyn-glwb, Sheffield United, i beidio â'i gyflogi eto.
Ond yn siarad gyda rhaglen BBC Sport Wales, dywedodd Mr Taylor nad oedd yn credu bod hynny yn deg.
'Cyfrannu at gymdeithas'
"Doeddwn i ddim yn gwybod bod 'na ddeddf oedd yn dweud unwaith i chi ddod allan o'r carchar nad oeddech chi'n cael gwneud dim byd arall," meddai.
"Fel undeb rydyn ni'n credu yn rheolau'r gyfraith... heblaw hynny, mae o eisiau cyfrannu at gymdeithas.
"Os yw'n ennill cyflog bydd yn talu trethi, bydd y trethi yna yn helpu pobl efallai sy'n methu cael gwaith."
Arwyddodd Evans i Sheffield United am £3m yn 2009, ond cafodd ei ryddhau fis ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Rhyl, Sir Ddinbych.
Nid yw'r clwb wedi gwneud sylw ar y posibiliad o gyflogi Evans, chwaraeodd 13 o weithiau i Gymru, unwaith eto.
'Neges gryf'
Dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu Rape Crisis England and Wales, nad oedd yr elusen yn dadlau hawl Evans i ddychwelyd i fyd gwaith, ond eu bod am weld byd pêl-droed "yn gyrru neges gryf yn condemnio trais rhywiol yn erbyn merched".
Dywedodd Katie Russell: "Yn amlwg mae Rape Crisis yn derbyn ac yn cefnogi hawl unrhyw droseddwr i ddychwelyd i fyd gwaith ar ôl iddyn nhw gwblhau eu dedfryd, dydyn ni ddim yn dadlau hynny.
"Ond mae'n rhaid i ni dderbyn bod yr achos hwn yn ffigwr adnabyddus iawn fydd yn anochel yn dychwelyd... lle bydd yn cael cyflog mawr, bydd yn cael proffil uchel ac yn cael ei ddathlu am ei allu ar y cae.
"Rydyn ni'n dweud bod y cyfrifoldeb gyda'r clybiau a'r awdurdod pêl-droed yn ehangach i yrru neges gryf iawn."
Mae Evans wedi honni ei fod yn ddieuog o'r dechrau, ac mae cyfreithwyr ar ran y pêl-droediwr yn paratoi cyflwyniad i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i geisio diddymu'r dyfarniad yn ei erbyn.
Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud sylw ar y mater, ond dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman ym mis Awst bod angen trafodaeth am ddyfodol Evans.
Straeon perthnasol
- 27 Awst 2014
- 13 Awst 2014