Tywydd stormus dros nos yn creu trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae`r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai gwyntoedd cryfion o hyd at 60 mya daro Cymru ddydd iau ond mae'n anhebygol y bydd hi mor stormus â nos Fercher.
Mae 16 o ardaloedd ar draws siroedd Abertawe, Caerfyrddin, Penfro, a Cheredigion heb drydan ar hyn o bryd wedi tywydd garw dros nos, gyda 1600 o gartrefi a busnesau heb drydan rhwng Gorseinon a Thregwyr yn unig.
Mae Scottish Power yn dweud bod cannoedd o'u cwsmeriaid ar draws y gogledd hefyd wedi colli trydan, y rhan fwya yn ardal Caernarfon. Mae peirianwyr yn ceisio adfer y cyflenwad.
Stormydd trydan sydd wedi achosi y rhan fwya o`r problemau.
Trafferthion teithio
Mae un lôn ynghau oherwydd gwyntoedd cryfion ar yr M48 Pont Hafren i`r ddau gyfeiriad.
Yn y cyfamser, mae gwyntoedd cryfion ar Bont Britannia wedi arwain at gyfyngiadau gyrru o 30 mya.
Mae gwasanaeth bws wedi bod yn rhedeg rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin wedi problemau ar y signalau.
Roedd mellt wedi taro signalau ac wedi achosi hyd at 30 munud o oedi rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi.