Heddlu De Cymru: Ymchwiliad i lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cychwyn ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Ninas Powys fore dydd Mercher, 8 Hydref.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o drafferthion yn Fairoaks am 09:25.
Roedd dyn 76 oed wedi dioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ble bu farw'n ddiweddarach.
Mae dyn 73 oed o Ddinas Powys wedi cael ei arestio gan yr heddlu ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ceri Hughes: "Rydym yn awyddus iawn i dawelu meddyliau yn y gymuned mai digwyddiad unigol oedd hwn, er ein bod yn gwerthfawrogi bod y digwyddiad wedi peri pryder i drigolion yn ardal Fairoaks.
"Mae swyddogion yn cefnogi teulu'r dyn fu farw ar adeg anodd iawn iddyn nhw."
Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r digwyddiad.