E Lyfr 'ta Llyfr Go Iawn?
Meg Elis
Awdur a chyfieithydd
- Published
Yr awdur a'r cyfieithydd Meg Elis sy'n pwyso a mesur rhinweddau'r llyfr traddodiadol a'r e lyfr.
Pethau handi?
Dwi'n meddwl bod fy nghymar yn trio dweud rhywbeth wrtha'i pan brynodd o ddyfais darllen e-lyfrau i mi yn anrheg. Efallai mai'r gwyliau penwythnos yna oedd yn gyfrifol, pan fuon ni i ffwrdd am ddwy noson a phan baciais i naw llyfr. (Fo oedd yn cario'r cês)
Ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, pethau handi iawn ydyn nhw, hefyd - heblaw pan mae angen ail-wefrio'r bali peth, a finna ar ganol rhyw nofel gyffrous.
Yr hyn dwi'n drio ddweud ydi nad oes gen i ddim byd yn erbyn dyfeisiadau na thechnoleg newydd - ac yn sicr, dim yn erbyn unrhyw beth sy'n cymell mwy o bobl i ddarllen, neu bobl i ddarllen mwy.
Angen cydbwysedd
Ac yr ydw i'n siŵr y buo yna broffwydi gwae pan symudwyd am y tro cyntaf o femrwn i'r print ffasiwn newydd yma - "Wnaiff o'm para, chwiw ydi o, 'chi" mi glywa'i ryw hen fynach yn ei scriptorium yn deud. Ond tydw i ddim chwaith yn ochri efo'r bobl hynny sy'n medru dweud - "O, wrth gwrs, mae fy holl lyfrgell i bellach yn electronig, a wir, mi fedrwch ei wneud o am ddim, dim ond i chi fynd i wefan wdriphlyg duwwyrbe; dyna'r cyfeiriad mae pawb yn symud iddo."
Y cyfan mae hynny'n neud ydi 'ngyrru i gyfeiriad fy silffoedd am lyfr go heffti i roi swadan i'r fath grinc hunangyfiawn.
'Lle i bopeth'
Cymedroldeb, hwnna ydi o - a chydnabod fod lle i bopeth - wel, i'r ddau gyfrwng, o leia.
Efallai mai mater o oed a chenhedlaeth ydi o, bod yna rywbeth mor atyniadol yn nheimlad a hyd yn oed ogla llyfr newydd sbon, y ffordd yr ydach chi'n medru ei fyseddu ac ymhyfrydu ynddo fo cyn hyd yn oed darllen gair.
Ond tydw i ddim mor siŵr, chwaith - ddim â minnau wedi gweld yr union yr un fath o bleser ar wyneb fy wyres fach chwech oed pan gafodd hi lyfr yn ei llaw yn bresant yn ddiweddar.
A beth am y rhai sy'n cynhyrchu? Y sgwennwyr? Mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb yma hefyd, fel rhywun sy'n bustachi i sgwennu. (Ar sgrîn, gyda llaw, yn amlach o lawer nac efo pin a phapur).
Mwy o reolaeth i'r awdur?
Pan mae rhywun yn anobeithio weithiau efo arafwch y broses o gynhyrchu llyfr, neu yn bytheirio pan nad ydi gwaith y buoch chi'n slafio drosto yn ffitio "marchnad" dybiedig y mis neu'r wythnos arbennig, mae'n achubiaeth fod cyfrwng arall yno - cyfrwng mwy democrataidd, ac un y mae gan yr awdur fwy o reolaeth drosto, i ddangos ei waith i'r byd - ac yn yr achos yma, y byd dwi'n feddwl.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i awduron o bob math - ac yn enwedig rhai all fod eisiau gwneud gwaith arbrofol, arbenigol - neu waith mewn iaith nad yw'n un sy'n cael ei hystyried yn un fyd-eang.
Ond byddwch yn ofalus - yn yr un modd yn union â bod angen bod yn ofalus efo pob "ffaith" welwch chi ar y we, mae angen bod yn ofalus hefyd ac yn ddethol, efo'r hyn sy'n cael ei lunio ar gyfer ei ddarllen yn electronig.
Mae'r beirniaid yno o hyd - a does yna'r un beirniad mwy llym na'ch darllenwyr.
Rhaid i chi f'esgusodi i rŵan - mynd i ffwrdd am noson bach o frêc. A mynd i bacio'r llyfrau, wrth gwrs!